Mae Ymarferydd Adran Llawdriniaethau (OPD) yn Ysbyty Gwynedd yn nodi 50 mlynedd yn y GIG y mis hwn.
Ymunodd Bernard Jones â’r gwasanaeth iechyd yn 1971 fel Technegydd Llawdriniaethau dan Hyfforddiant yn y cyn Ysbyty C & A ym Mangor, cyn gadael yn 1977 i ymuno â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fel Technegydd Ambiwlans.
Yn ystod y blynyddoedd hynny, fe gwblhaodd sawl cymhwyster a chael profiad gwerthfawr ar y rheng flaen yn trin y rhai oedd angen gofal brys cyn ysbyty.
Dywedodd: “Wedi saith mlynedd gyda’r gwasanaeth ambiwlans, penderfynais fy mod eisiau dychwelyd i’r ysbyty a chefais fy mhenodi i rôl Cynorthwyydd Adran Llawdriniaethau yn Ysbyty Gwynedd pan agorodd yn 1984.
“Mi wnes i fwynhau’r rôl yn fawr iawn yn syth ar ôl ymuno â’r tîm a rhoddodd y sicrwydd ariannol oedd arnaf ei angen i brynu fy nhŷ cyntaf, a dyna ble cwrddais â’m gwraig, Buddug hefyd.
“Mae llawer o newidiadau wedi bod dros y blynyddoedd ond does rhai pethau byth yn newid yn ein hadran theatrau, mae’r cleifion yn dod gyntaf bob amser.”
Mae Bernard wedi cael canmoliaeth uchel gan ei gydweithwyr dros y blynyddoedd, sy’n ei weld fel rhan annatod o’r tîm.
Dywedodd yr Anaesthetydd Ymgynghorol, Dr Suman Mitra: “Rydw i wedi gweithio gyda Bernard am flynyddoedd lawer ac mae bob amser yn gwrtais a hwyliog pan mae’n rhyngweithio â chleifion. Lles y claf sydd bob amser yn dod gyntaf ac mae’n cyfathrebu’n dda iawn â nhw i dawelu eu hofnau.
“Mae’n aelod pwysig o’r tîm theatr ac mae’n angerddol am ddiogelwch a chyfforddusrwydd cleifion.”
Mae Bernard hefyd wedi gallu rhannu ei wybodaeth eang â’i gyd ymarferwyr OPD dros y blynyddoedd i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau.
Dywedodd yr Uwch ODP, Petula Rees: “Mae Bernard wedi dysgu cymaint i mi fel ODP am flynyddoedd lawer, mae’n wybodus iawn, aelod hoffus iawn o’r tîm ac mae bob amser yn barod i helpu.
“Mae’n hawdd dweud ym mha theatr mae o wedi bod yn gweithio gan ei fod yn gadael popeth mor daclus, wedi ei stocio’n llawn ac yn lân. Byddai’n un o’r Ymarferwyr ODP y byddwn yn mynd i chwilio amdanynt pe byddwn angen cynorthwyydd.”
Yn 73 mlwydd oed, mae Bernard yn dal yn ymroddedig i barhau i weithio yn ei rôl cyn hired â phosibl ac mae’n ddiolchgar i’w gydweithwyr am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.
“Mae’r rôl hon wedi rhoi cymaint o brofiad i mi, rydw i wedi gallu gweithio ochr yn ochr â llawfeddygon gwych ac wedi gweld achosion anhygoel o gleifion yn gwella pan oeddem yn credu nad oedd gobaith o gwbl.
“Mae rôl yr ODP yn un werth chweil ac rydych yn dysgu cymaint ac rydw i’n lwcus o gael gweithio gyda chydweithwyr gwych.
“Mae’n fraint i mi fod wedi gweithio i’r GIG am 50 mlynedd ac rydw i’n ddiolchgar i’r Bwrdd Iechyd am fy nghadw ymlaen fel y gallwn gyrraedd y garreg filltir hon!” ychwanegodd Bernard.
Nododd cydweithwyr Bernard y garreg filltir drwy roi syrpreis iddo gyda chacen arbennig a thalebau o Ganolfan Arddio Fron Goch.
Dywedodd y Rheolwr Theatr, Dafydd Pleming: “Mae wedi bod yn fraint cydweithio gyda Bernard am 34 mlynedd, nid yn unig mae ganddo wybodaeth eang o sgiliau y mae wedi gallu eu rhannu â chydweithwyr dros y blynyddoedd, mae ei ofal dros gleifion hefyd yn rhagorol.
“Ar ran pawb yn yr adran Theatrau, hoffem ei longyfarch a diolch iddo am ei wasanaeth i’r GIG dros y 50 mlynedd diwethaf.”