26 Medi 2022
Mae robotiaid llawfeddygol o'r radd flaenaf bellach yn helpu i drin cleifion â chanser y colon a'r rhefr a chanser gynaecolegol yng Nghymru fel rhan o Raglen Genedlaethol newydd yn ymwneud â Llawdriniaeth â Chymorth Robot.
Cyflwynwyd y Rhaglen Genedlaethol Llawdriniaeth â Chymorth Robot gan Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau i gleifion canser trwy gynyddu nifer y cleifion ar draws Cymru sy'n cael mynediad at lawdriniaeth lai mewnwthiol, a lleiaf ymyrrol (MAS). Mae MAS yn cynnig buddion cydnabyddedig i'r cleifion o gymharu â llawdriniaeth agored, gan gynnwys lleihau poen, creithio ac amser adferiad.
Mae robot Versius CMR Surgical yn galluogi llawfeddygon i gwblhau gweithredoedd cymhleth yn union ac yn fanwl-gywir, gyda'r llawfeddyg yn gweithredu pedair braich robotig o gonsol annibynnol ac agored.
Yn ystod yr haf, dechreuodd llawfeddygon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro roi llawdriniaeth i gleifion y Colon a'r Rhefr gan ddefnyddio robot Versius.
Un o'r cleifion hynny oedd Timothy Simms, 78 oed, cyfreithiwr sydd wedi ymddeol o Gaerdydd.
Dywedodd Mr Simms, a dderbyniodd y weithred i dynnu polyp o'i golon sigmoid, yn Ysbyty Athrofaol Cymru: "I mi, roedd yn fwy dymunol na llawdriniaeth arferol. Esboniodd Mr Horwood yr hyn a oedd ei angen, roedd yn glir ac yn gryno ac roedd yn swnio'n fwy deniadol na llawdriniaeth gonfensiynol.
"Nid oedd gen i unrhyw bryderon o ran derbyn y llawdriniaeth gan fod popeth wedi cael ei esbonio i mi ac aeth popeth yn union fel roedd disgwyl iddo wneud.
"Fy mhryder mwyaf oedd yr amser adferiad gan na allaf fforddio golli unrhyw amser ar fy oedran i ond mae llawdriniaeth o'r fath yn cynnig adferiad cyflymach felly roedd hynny'n fonws arall.
"Dyddiau cynnar yw hi ond rwy'n hapus iawn gyda sut aeth pethau."
Dywedodd yr Athro Jared Torkington, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a'r Rhefr: "Rydym ni wedi cyffroi'n lân am ddechrau rhaglen robotig unigryw wedi'i rhwydweithio yng Nghymru, sydd â'r bwriad o wella ansawdd llawdriniaeth, denu staff a'u cadw ac rydym yn gweithio gyda'r cyhoedd i dynnu sylw at bwysigrwydd gofyn am gymorth yn gynnar a'r rhaglen sgrinio bresennol yn ymwneud â chanser y coluddyn a chanserau eraill."
Yn gynharach y mis hwn, cafodd yr achosion robotig cyntaf eu cynnal ym maes Gynaecoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cyn cwblhau'r achosion cyntaf, gwnaeth y tîm theatr, sy'n cynnwys llawfeddygon, nyrsys sgrwb ac Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaeth, gymryd rhan mewn hyfforddiant helaeth i ddatblygu'r sgiliau robotig craidd sydd eu hangen i ddefnyddio'r system.
Yr Oncolegwyr Gynaecolegol Ymgynghorol Mr Richard Peevor a Miss Ros Jones oedd y llawfeddygon cyntaf i ddefnyddio'r robot.
Dywedodd Mr Peevor: "Rydym yn falch o fod y ddisgyblaeth lawfeddygol gyntaf i ddefnyddio roboteg i drin ein cleifion yng Ngogledd Cymru.
"Byddwn yn cynnig y math hwn o lawdriniaeth i ferched lle bo angen hysterectomi ar gyfer canser gynaecolegol.
"Mae llawdriniaeth robotig yn cynnig llawer o fanteision o gymharu â llawdriniaeth agored; mae'r manteision yn cynnwys colli llai o waed, arosiadau byrrach yn yr ysbyty ac adferiad cynt.
"Yma yn Ysbyty Gwynedd, ni yw'r Ganolfan Lawfeddygol ar gyfer Canser Gynaecolegol yng Ngogledd Cymru felly bydd sicrhau bod y robot ar gael i ni wir yn atgyfnerthu'r gwasanaeth sydd eisoes ar gael gennym i'n cleifion."
Carys Hughes, o Fynytho ar Ben Llŷn, oedd un o'n cleifion cyntaf i dderbyn triniaeth i dynnu'r ddau ofari gan ddefnyddio'r robot.
Dywedodd: "Roedd yn eithaf cyffrous i fod yn un o'r cleifion cyntaf i fod yn rhan o wasanaeth newydd arloesol yng Ngogledd Cymru!
"Roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus iawn gan fod y weithred wedi cael ei hesbonio i mi'n dda iawn. Roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus am y weithred gan fod llawer o fanteision ynghlwm wrth ddefnyddio'r robot gan nad yw'n rhy fewnwthiol ac mae hefyd yn arwain at adferiad cyflymach.
"Hoffwn ddiolch i'r tîm yn Ysbyty Gwynedd am y gofal maent wedi'i roi i mi ac rwy'n falch iawn o weld bod y dechnoleg hon bellach ar gael i gleifion yn ein hardal ni."
Tua diwedd 2022, caiff llawdriniaeth robotig ei chynnig i gleifion canser Wrolegol dethol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Caerdydd a bydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn cyflwyno'r gwasanaeth ym maes Gynaecoleg.
Mae CMR wedi rhoi cymorth o ran rhoi'r rhaglen ar waith trwy gymorth a hyfforddiant helaeth ar y safle, a bydd yn parhau i gefnogi'r rhaglen trwy bartneriaeth ar y cyd â GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Menter Canser Moondance.
Dywedodd Ana Raduc, Rheolwr Cyffredinol, DU ac Iwerddon yn CMR Surgical: "Yn CMR, rydym ni wedi cyffroi'n lân i fod yn rhan o'r strategaeth arloesol hon, ac rydym yn croesawu'r arweinyddiaeth y mae Cymru wedi'i dangos i fabwysiadu ymagwedd arloesol a fydd yn cynnig buddion gwirioneddol i'r GIG, i lawfeddygon ac yn bwysicaf oll, i gleifion ar draws Cymru, trwy fanteisio ar bŵer Versius. Gobeithiwn y bydd y rhaglen hon yn dangos rhinweddau rhaglen genedlaethol iechyd cyhoeddus RAS gan fod systemau iechyd ym mhedwar ban byd yn wynebu fwyfwy o bwysau ac ôl-groniadau cynyddol o ofal dewisol. Mae Cymru wedi arwain y ffordd, ac rydym yn annog trafodaeth bellach a rhannu arfer gorau o ran rhinweddau rhaglen genedlaethol roboteg lawfeddygol gyda chenhedloedd eraill yn y DU."