02/05/2023
Mae Dyfed Edwards, Cadeirydd Dros Dro, wedi cyhoeddi penodiad Carol Shillabeer i swydd Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr heddiw.
Bydd Carol, sydd wedi bod yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ers 2015, yn dechrau yn ei swydd yfory (dydd Mercher, 3 Mai 2023).
Bydd Hayley Thomas, ei Dirprwy Brif Weithredwr, yn cyflawni'r rôl ym Mhowys ar ei rhan.
Mae'r broses recriwtio ar gyfer Prif Weithredwr parhaol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y gweill.
Dywedodd Dyfed Edwards:
"Mae'n bleser gennyf gadarnhau y bydd Carol yn ymuno â ni.
"Bydd ei phrofiad helaeth fel Prif Weithredwr ac mewn rolau arweinyddiaeth glinigol yn GIG Cymru ynghyd â'i chefndir o weithio mewn partneriaeth o fudd mawr i ni wrth i ni weithio i greu sefydlogrwydd.
"Ar ran y Bwrdd, mae'n bleser gennyf groesawu Carol i Ogledd Cymru wrth i ni gydweithio i wneud y cynnydd sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau iechyd y gallwn ni gyd fod yn falch ohonynt."
Mae Gill Harris, sy’n Brif Weithredwr Dros Dro yn y Bwrdd Iechyd ar gyfnod estynedig o absenoldeb salwch ar hyn o bryd.
Mae Carol wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr Dros Dro a Swyddog Atebol dynodedig y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd Carol Shillabeer:
"Rydw i'n falch iawn o ymuno â thîm Betsi. Rydw i'n cydnabod yr heriau, ac rydw i hefyd yn ymwybodol iawn o'r gwaith positif sy'n cael ei wneud ar draws Gogledd Cymru ac o angerdd ac ymrwymiad y staff a chymunedau.
"Edrychaf ymlaen at gydweithio â staff, partneriaid a'n cymunedau a gwrando arnynt yng ngwir ystyr y gair, fel y gallwn ddefnyddio'r cyfle sy'n dod yn sgil Mesurau Arbennig i gydweithio er mwyn arwain at welliannau parhaus a chynaliadwy."