30/11/2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi cael ei ailachredu gan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn (ERS), gan dderbyn gwobr aur am yr ail dro, am ei gymorth a’i saliwt i Gymuned y Lluoedd Arfog (AFC) yn y gorffennol ac yn y presennol.
Mae’r Wobr Aur yn cydnabod gwaith ymroddgar y Bwrdd Iechyd wrth gefnogi’r Gymuned Lluoedd Arfog yn ogystal â chydnabod ei waith gyda Chyfamod y Lluoedd Arfog i sicrhau bod aelodau blaenorol a phresennol y Gymuned Lluoedd Arfog yn cael eu cefnogi gan BIPBC fel cyflogwr sy’n ystyriol o’r lluoedd arfog.
Daeth y Prif Swyddog Gweithredol BIPBC, Carol Shillabeer, ac Arweinydd y Lluoedd Arfog, Zoe Roberts, ynghyd i fynychu seremoni Wobrwyo Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghastell Hensol yr wythnos ddiwethaf i ddathlu’r llwyddiant.
Dywedodd Zoe: “Roedd yn bleser o’r mwyaf cael ymuno â Carol, ein Prif Weithredwr sydd newydd ei phenodi, yn y seremoni i ddathlu’r gwaith sydd wedi cael ei wneud ar draws y Bwrdd Iechyd gan ein gwirfoddolwyr a oedd yn gyn-filwyr i gyflawni’r safon aur. Rwy’n falch iawn o gael fy nghefnogi gan BIPBC, dan arweiniad Carol, yn fy rôl fel Cyfamod y Lluoedd Arfog ac Arweinydd Cydweithredol Gofal Iechyd Cyn-filwyr.
“Rwy’n hynod falch o fod yn arwain portffolio’r Lluoedd Arfog yma yn BIPBC; Cymdeithas y Lluoedd Arfog yw fy nheulu estynedig, ac mae eu gwasanaethu yn fy ngwneud yn wirioneddol hapus. Pan fyddaf yn cefnogi aelodau o staff neu gleifion y Lluoedd Arfog, rwyf yn ymdrechu bob dydd i sicrhau ein bod ni fel darparwr Gofal Iechyd yn gwneud ein gorau i fodloni ein cymwysterau "enghreifftiol" sy'n ystyriol o’r lluoedd arfog."
Y llynedd, lansiodd y Bwrdd Iechyd raglen newydd o'r enw Rhaglen Gydweithredol Gofal Iechyd Cyn-filwyr Gogledd Cymru (NWVHC) i sicrhau nad yw cymuned y Lluoedd Arfog ar draws Gogledd Cymru o dan anfantais o ran y gofal y maent yn ei dderbyn a lle bo’n bosibl, eu bod yn derbyn gofal personol ac yn gwella canlyniadau cleifion.
Ychwanegodd Zoe: “Roedd yn wych gweld ymdrechion ein sefydliadau cyfagos, a ymunodd yn y dathlu ddydd Gwener, i dderbyn eu Gwobrau Aur ERS eu hunain. Mae’r timau Rheoli Perthynas Amddiffyn yn gweithio’n galed iawn i’n cefnogi ni fel Arweinwyr y Lluoedd Arfog, fel y gallwn gyflawni ein hymrwymiadau o gefnogi ein Cymunedau Lluoedd Arfog.
"Yn y pen draw, mae BIPBC yn gweithredu fel Bwrdd Iechyd braenaru enghreifftiol i Gymru wrth gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog."
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r tîm Rheoli Perthynas Amddiffyn a’u Cyfarwyddwr Rhanbarthol Ymgysylltu â Chyflogwyr, sydd wedi arwain at weithio mewn partneriaeth â Phartneriaeth Newid Gyrfa’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD), ac sydd wedi arwain at symleiddio proses recriwtio Ymadawyr Gwasanaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn cefnogi staff sy’n filwyr wrth gefn, gan ddarparu 10 diwrnod o absenoldeb ychwanegol (â chyflog llawn) ar gyfer hyfforddiant, tra'n hyrwyddo amgylchedd gweithredol a chalonogol ar gyfer y garfan werthfawr hon o bersonél.
Am wybodaeth, cyngor neu gymorth pellach ynglŷn â chael mynediad at wasanaethau BIPBC fel cyn-filwr, ewch i’r dudalen we hon.