Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn derbyn cyfrifoldeb dros weithrediad Meddygfa Longford yng Nghaergybi o fis Medi 2019.
Daw hyn ar ôl i bartneriaid y feddygfa roi chwe mis o rybudd eu bod yn dod â'u contract gyda'r Bwrdd Iechyd i ben i ddarparu gwasanaethau meddygon teulu o Feddygfa Longford o ddiwedd mis Awst 2019.
Dywedodd Wyn Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Cychwynnol y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Er gwaethaf cyfnod o hysbysebu'r practis ar lefel genedlaethol er mwyn chwilio am bartneriaeth newydd, nid ydym wedi derbyn unrhyw geisiadau newydd.
“Er mwyn sicrhau bod Meddygfa Longford yn parhau i ddarparu gwasanaethau, gallwn gadarnhau o 1 Medi 2019, y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn derbyn cyfrifoldeb dros reoli'r feddygfa a thros gyflogi staff yno.
“Hoffem roi sicrwydd i gleifion y bydd dilyniant o ran gwasanaethau i'r practis ac nad oes angen iddynt wneud dim na chofrestru â phractis meddyg teulu arall. Hoffem ddiolch i'r partneriaid am eu gwasanaeth i'r ardal dros y blynyddoedd"
Ychwanegodd Ayshea Saleemi, Rheolwr Meddygfa Longford: “Hoffem roi sicrwydd i'n cleifion ein bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod gwasanaeth yn y practis yn parhau i gael ei gynnal mewn ffordd mor normal â phosibl.
“Rydym ni wrthi'n recriwtio meddygon teulu i weithio yn y practis ond yn y cyfamser, bydd gennym ni feddygon teulu locwm rheolaidd i'n cefnogi ni.
“Bydd staff ein derbynfa'n parhau i fod yn bwynt cyswllt cyntaf. Bydd cleifion sydd â chyflyrau cronig parhaus yn dal i gael eu monitro ac yn derbyn gofal gan yr un Nyrs Practis a Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd.
“Mae'r tîm hefyd yn cynnwys dau Ymarferydd Nyrsio sy'n brofiadol mewn rheoli mân anhwylderau, salwch difrifol a gofal parhaus. Yn ogystal â'n tîm nyrsio, mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu Ffisiotherapydd sydd wedi'i hyfforddi mewn canfod a rheoli problemau cyhyrysgerbydol."