Mae meddyg o Ysbyty Gwynedd wedi cael ei gydnabod gyda MBE am ei waith gwirfoddol a chymuned sydd wedi newid bywyd cannoedd o bobl.
Mae Dr Ashok Kumar Bhuvanagiri wedi cael MBE am wasanaethau i Gydlyniad Diwylliannol ac i elusen.
Er ei fod wedi treulio’r rhan fwyaf o'i fywyd proffesiynol fel meddyg yn trin cleifion sydd â phroblemau wroleg, ei waith gwirfoddol fel arweinydd cymuned sy'n ei wneud yn wahanol i eraill.
Tra roedd yn byw yn yr Alban, rhoddodd lawer iawn o amser i hyrwyddo integreiddiad diwylliannol rhwng cymunedau gwahanol yn yr Alban. Yn 2002 sefydlodd Cymdeithas Telugu, Yr Alban, gan greu fforwm ar gyfer mewnfudwyr o India i rannu eu profiadau ac ymgysylltu â chymunedau lleol.
Dywedodd: "Mae'r sefydliad yn cynorthwyo pobl gydag unrhyw faterion maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Mae'n rhoi gwybodaeth ar broblemau cymdeithasol, economaidd, ariannol, tai, iechyd ac addysgol ac yn cyfeirio pobl at y cyfeiriad cywir i gael arweiniad. Trwy ei ystod eang o weithgareddau, mae'r gymdeithas yn cefnogi cytgord cymdeithasol, ymwybyddiaeth amgylcheddol a lles corfforol.”
Mae'r gymdeithas yn awr wedi tyfu o fod yn sefydliad gwirfoddol lleol a oedd yn helpu ychydig o bobl, i elusen achrededig sy'n effeithio bywydau degau o gannoedd o bobl ar draws yr Alban.
Yn 2015, enillodd y Wobr Dinesydd Prydeinig am wasanaeth cymuned rhagorol gan Dŷ'r Arglwyddi, ac yn 2013 enillodd y wobr Mentrwr Cymdeithasol y flwyddyn gan Asian Lite, y papur newydd byd-eang ar gyfer Diaspora De Asia.
Mae hefyd yn aelod o nifer o grwpiau a sefydliadau eraill megis Grŵp Cydraddoldeb Craidd Cyngor Gwynedd a Grŵp Gweithredol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hefyd yn ymddiriedolwr ar gyfer Cymdeithas Ffrindiau India Bangor.
Dywedodd Dr Bhuvanagiri, a ymunodd ag Ysbyty Gwynedd yn 2014 ei fod yn falch iawn ei fod wedi cael MBE am ei waith gan y Frenhines.
Dywedodd: "Mae'n dda cael fy nghydnabod gydag anrhydedd o'r fath ac roeddwn yn falch iawn i fynd i Lundain i gael fy ngwobr gan y Frenhines ei hun."