21/06/2023
Nid oedd uwch ymarferydd clinigol yn Ysbyty Glan Clwyd yn medru credu ei bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog gan y lluoedd arfog.
Fodd bynnag, roedd Vikki Montgomery (neu Uwch-gapten milwrol Victoria Montgomery QARANC, 206 MMR) yn falch iawn i glywed ei bod wedi cael ei henwebu ar gyfer rowndiau terfynol gwobr Milwr Wrth Gefn y Flwyddyn.
Mae’n un o’r categorïau yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru a bydd Vikki yn cael gwybod os yw hi’n enillydd mewn seremoni yng Nghaerdydd ar Orffennaf 5.
Meddai: “Cefais e-bost a dywedais ‘mae hyn yn edrych yn dda’ ond doeddwn i’n methu credu’r peth pan glywais fy mod wedi cael fy enwebu.”
Mae Vikki wedi gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers bron i 24 mlynedd ar ryw ffurf neu’i gilydd a symudodd o Ynys Manaw i hyfforddi fel nyrs ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, yn 1996.
Dechreuodd ar ei gyrfa yn y fyddin gydag Ysbyty Maes 208 Lerpwl a chodi i reng Uwch-gapten yng Nghorfflu Nyrsio Brenhinol y Frenhines Alexandra.
Mae Vikki yn cefnogi Canolfan Hyfforddi Gwasanaeth Meddygol y Fyddin a BIPBC gyda hyfforddiant dadebru fel triniaeth cynnal bywyd brys ac fel uwch-hyfforddwr cynnal bywyd, pan fo modd.
Mae hi hefyd yn rhedeg prosiect contractau mygedol ar gyfer personél rheolaidd a milwyr wrth gefn y lluoedd arfog gyda chefnogaeth BIPBC.
Mae'r cynllun yn cefnogi ac yn galluogi cyfranogwyr mygedol i gynnal a chynyddu eu sgiliau clinigol a chyfarwyddo â darpariaethau gofal iechyd i sicrhau y gellir eu defnyddio maes o law.
“Mae Betsi wedi bod yn dda iawn gyda’u cytundebau mygedol” meddai Vikki. “Mae pobl yn dod o bob rhan o’r Gogledd Orllewin a Gogledd Cymru i elwa arnyn nhw.”
Mae hi wedi cynnal nifer o gyrsiau cynnal bywyd brys ar gyfer personél rheolaidd a milwyr wrth gefn y lluoedd arfog ers blynyddoedd lawer y tu hwnt i'r Frigâd, gan gynnwys y cyfnod COVID.
Mae Vikki wedi bod ar wasanaeth gweithredol yn Irac ddwywaith, mae wedi bod ar raglen gyfnewid filwrol gyda Gwarchodlu Cenedlaethol yr Unol Daleithiau yn Virginia ac wedi gweithio ar ymarferion milwrol ledled y DU, Ewrop ac America.
Mae hi wedi bod yn uwch ymarferydd clinigol fel rhan o’r Tîm Ymyrraeth Acíwt yn Ysbyty Glan Clwyd ers 10 mlynedd ac mae wrth ei bodd yn ei gwaith.