Bydd mamau newydd a merched beichiog o Ogledd Cymru, sydd angen gofal arbenigol mewn ysbyty ar gyfer problemau iechyd meddwl difrifol yn gallu cael triniaeth yn agosach at adref, pan fydd uned mamau a babanod newydd yn agor ei drysau flwyddyn nesaf.
Bydd yr uned newydd ar safle Ysbyty Iarlles Caer yn lleihau amseroedd teithio yn sylweddol i gleifion a theuluoedd o bob rhan o Ogledd Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r unedau arbenigol wedi’u lleoli ym Manceinion, Chorley, Birmingham a Nottingham, yn ogystal â’r Uned Gobaith Mamau a Babanod (MBU) yn Abertawe.
Bydd y cyfleuster 8-gwely pwrpasol yn cefnogi mamau newydd a merched beichiog mewn amgylchedd therapiwtig sydd wedi'i ddylunio'n bwrpasol ar gyfer pobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl mamol, megis iselder ôl-enedigol, seicosis, neu ail bwl o gyflwr iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes.
Bydd yn bodloni'r canllawiau am arferion gorau gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, sy'n awgrymu y dylai Unedau Mamau a Babanod ddarparu rhwng chwech ac wyth o welyau, er mwyn sicrhau gwasanaeth cynaliadwy ac o ansawdd uchel.
Wrth i fodelu ddangos mai dim ond dau wely ar gyfer cleifion mewnol sydd wedi'u clustnodi ac sy'n ofynnol i wasanaethu poblogaeth Gogledd Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gweithio gyda phartneriaid GIG Lloegr ar ddatrysiad ar y cyd sy'n gwella mynediad i ferched yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer, Wirral a Glannau Mersi.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cymryd ystod o gamau i atgyfnerthu’r ddarpariaeth Gymraeg, gan gynnwys darparu arwyddion dwyieithog trwy’r cyfan; blaenoriaethu ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith wrth recriwtio i’r uned newydd; a chynnig mynediad at linell Gymraeg 24 awr y dydd, saith niwrnod o’r wythnos.
Cafodd Nia Foulkes ei derbyn i uned mamau a babanod arbenigol ym Manceinion wedi iddi roi genedigaeth i'w mab Gwilym ym mis Mai 2019. Yn ôl Nia, sydd o Ruthun, roedd bod mor bell o gymorth ffrindiau a theulu wedi cael effaith negyddol arni.
Ers hynny mae hi wedi ymgyrchu dros sefydlu Uned Mamau a Babanod yng Ngogledd Cymru, ac fe lansiodd ddeiseb a ddenodd bron i 8,000 o lofnodion. Mae Nia, sydd ag anhwylder deubegynol wedi bod yn defnyddio ei phrofiad o lygad y ffynnon i helpu'r Bwrdd Iechyd i gynllunio’r gwasanaeth newydd.
Dywedodd: “Rydw i’n hapus y bydd yno Uned Mamau a Babanod yng Nghaer, gan y bydd cyrraedd y gwasanaeth cymaint haws i gleifion yng Ngogledd Cymru, ac rydw i’n falch iawn o glywed am y ddarpariaeth Gymraeg yn yr uned newydd.
"Mae'n brofiad eithaf brawychus cael eich derbyn i’r Uned Mamau a Babanod, a byddwn wedi elwa'n fawr pe bai fy ngŵr yn agosach ataf tra roeddwn yn yr uned ym Manceinion, yn enwedig pan roeddwn ei angen yn gyflym. Mae’r cyfnod ar wahân wedi cael effaith barhaol arnom ein dau.
"Rydw i’n credu y byddwn wedi bod adre ynghynt pe bawn yn agosach at adref, byddai mwy o fy nheulu agos a’m ffrindiau wedi dod i fy ngweld.
"Roeddwn yn ddiolchgar iawn i gael fy ngwahodd i’r cyfarfodydd lle gwnes i rannu fy mhrofiad o ddefnyddio’r Uned Mamau a Babanod a rhoi fy marn ar yr uned newydd yng Nghaer.”
Bydd y cynlluniau’n cynnwys meithrinfa, ystafell synhwyraidd a lolfeydd amrywiol i gefnogi amser tawel ac ymweliadau teuluol. Mae cael mynediad at yr ardaloedd yn yr awyr agored yn ganolog i’r cynlluniau, gyda dwy ardd, taith dolen gyda’r pram, a bydd teuluoedd yn elwa ar fynediad at fannau gwyrdd gan iddi fod wedi’i lleoli ar gyrion Parc Gwledig Iarlles Caer.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol sy’n gyfrifol am Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC: “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda'n partneriaid yn GIG Lloegr ar y datblygiad hwn sydd ei angen yn fawr. O ganlyniad, bydd yn sicrhau bod y nifer fach o ferched o Ogledd Cymru sydd angen y lefel hon o gymorth arbenigol yn gallu derbyn eu gofal yn agosach at adref.
“Mae merched o Ogledd Cymru, sydd wedi byw’r profiad gydag anawsterau iechyd meddwl amenedigol wedi chwarae rhan ganolog wrth siapio’r cynlluniau hyn ac rydym yn hynod o ddiolchgar am eu cymorth Rydym hefyd yn hynod o falch ein bod wedi gallu cyflwyno mesurau i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried drwyddi draw.”
Mae disgwyl i’r uned agor yn 2024.