Mae uned arbenigol newydd gyda thri gwely sy’n gwasanaethu anghenion dwys cleifion ar ôl triniaeth lawfeddygol fawr wedi agor yn Ysbyty Gwynedd.
Yn gynharach eleni, agorwyd yr Uned Gofal Ôl-Anasethetig (PACU) ac mae wedi’i lleoli yn adran theatr yr ysbyty.
Mae PACU, gwasanaeth dros nos sy’n cael ei chynnal gan aelodau’r tîm theatr, wedi’i chynllunio ar gyfer cleifion sydd angen gofal ychwanegol ar ôl eu llawdriniaeth.
Dywedodd Dr Carsten Eickmann, Anesthetydd Ymgynghorol: “Nod yr uned yw lleihau nifer y llawdriniaethau sy’n cael eu canslo pan nad oes gwelyau arbenigol ar gael yn yr ysbyty.
“Cyn i gleifion ddod i mewn am eu llawfeddygaeth, mae’n rhaid i ni sicrhau bod gwely ar gael iddynt yn yr Uned Dibyniaeth Fawr, gan fod angen lefel uwch o fonitro ar y cleifion hyn ar ôl eu llawfeddygaeth. Weithiau, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, mae'n rhaid canslo rhai llawdriniaethau gan nad yw'r gwelyau hyn ar gael.
“Mae hyn bob amser yn siomedig i bawb, ond mae’r ffaith bod y PACU ar gael yn golygu y bydd angen aildrefnu llai o lawdriniaethau cleifion gan y byddant yn gallu gwella ar ôl eu llawdriniaeth yn PACU nes bydd gwely priodol ar gael.
“Mae ein tîm theatr wedi gweithio’n galed iawn i gael yr Uned ar waith ac mae ganddyn nhw’r arbenigedd a’r sgiliau i ofalu am y mathau hyn o gleifion yn dilyn eu llawdriniaeth.”
Mae'r uned yn fenter dan arweiniad y theatr ac mae wedi cael adborth cadarnhaol gan gleifion ers iddi agor tua diwedd mis Rhagfyr.
Dywedodd Sharon Roberts, Arweinydd Tîm Adferiad PACU: “Mae'n braf gweld yr adran gyfan yn dod at ei gilydd i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi gofal a chefnogaeth ragorol i gleifion ôl anesthetig.
“Rydym ni wedi cael adborth mor wych gan gleifion sydd wedi bod gyda ni yn PACU ac rydym ni'n falch iawn fod yr Uned hon ar gael yn ein hadran theatr.”
Ychwanegodd Dafydd Pleming, Rheolwr Theatr yn Ysbyty Gwynedd: “Mae hon yn fenter wych i’n hadran theatrau yma yn Ysbyty Gwynedd a fydd o fudd i’n cleifion sy’n dod i mewn i gael llawfeddygaeth.
“Gwnaethpwyd y prosiect hwn yn bosibl gyda chefnogaeth gan ein timau gweithredol a thimau cyllid, ynghyd â Llywodraeth Cymru a'n cydweithwyr o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd.”