14/06/2023
Mae uned 3 gwely sydd wedi'i lleoli ar yr Uned Gofal Critigol, lle mae cleifion yn derbyn gofal ar ôl cael llawdriniaeth fawr, newydd agor yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Agorodd yr Uned Gofal Ôl Anesthetig (PACU) yn gynharach eleni ar gyfer cleifion sydd angen gofal arbenigol ar ôl cael llawdriniaeth wedi'i chynllunio neu lawdriniaeth frys.
Mae PACU, a oedd wedi’i lleoli’n flaenorol yn yr ardal Gyrraedd, bellach o fewn yr Uned Gofal Critigol, rhan o’r ysbyty sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar, ac mae’r gwasanaeth wedi ehangu i un sydd yn cael ei gynnig yn ystod y dydd a dros nos ac sy’n cael ei redeg gan chwe aelod newydd o staff.
Dywedodd Dr John Harris, Anesthetydd Ymgynghorol: “Rydym wedi cael gymaint o adborth gwych gan gleifion sydd wedi bod gyda ni yn PACU ac rydym yn falch iawn o allu cynnig gofal penodol un-i-un.
“Mae’r ardal ar wahân i ardaloedd llawfeddygol traddodiadol yr ysbyty a bydd yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd llawdriniaethau dewisol yn cael eu gohirio ar adegau prysur ac mae’n caniatáu i’r cleifion hynny sy’n cael llawdriniaeth fawr gael gofal mewn ardal gofal uwch yn dilyn eu llawdriniaeth.
“Bydd lefel uwch o fonitro ynghyd ag adnabod ac ymateb yn gyflymach i unrhyw faterion y deuir ar eu traws yn arferion fydd yn arwain at well canlyniadau a phrofiad gwell i gleifion yn gyffredinol.”
Mae'r uned wedi cael adborth cadarnhaol gan gleifion ers iddi agor yn gynharach eleni.
Dywedodd Jayne Galante, Metron Dros Dro yn yr Uned Gofal Critigol: “Mae PACU yn gaffaeliad i’r Gyfarwyddiaeth Lawfeddygol, mae’n ardal benodol i gleifion lle gellir eu monitro yn agos, a rheoli eu poen a’u hylifau yn syth ar ôl y llawdriniaeth.
“Mae’n braf gweld y timau Gofal Critigol a Llawfeddygol yn cydweithio i ddarparu gwasanaeth mor bwysig sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol i gleifion ôl-anaesthetig.
“Mae gennym nyrsys sydd wedi’u hyfforddi i ofalu am y cleifion hynny sydd angen gofal mwy arbenigol. Gellir gweld PACU fel cam hollbwysig yn nhaith y claf.”