09 Awst, 2022
Mae uned adsefydlu newydd i helpu i roi hwb i adferiad cleifion strôc wedi agor yn Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon.
Hon yw'r gyntaf o dair canolfan adsefydlu newydd ar draws Gogledd Cymru i gleifion lle nad oes angen triniaeth strôc arbenigol mwyach mewn ysbyty acíwt, ond lle bo angen adsefydlu ar gyfer strôc nad oes modd ei gynnig gartref.
Caiff y ganolfan gymorth gan ystod lawn o staff arbenigol amlddisgyblaethol yn cynnwys Ffisiotherapyddion, Nyrsys, Meddygon, Therapyddion Iaith a Lleferydd a Therapyddion Galwedigaethol er mwyn gwella tebygolrwydd cleifion o gael adferiad da yn dilyn eu strôc.
Mae Karl Jackson, Therapydd Strôc Ymgynghorol, yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu'r gwasanaeth adsefydlu ar sail therapi yn Ysbyty Eryri.
Dywedodd: "Pwrpas y ganolfan newydd ar gyfer adsefydlu arbenigol i gleifion mewnol yn y gymuned yw pontio'r bwlch presennol o ran gofal ôl-strôc gan roi'r cyfle gorau i bobl sydd wedi cael strôc adfer ac i addasu yn yr amgylchedd modern gorau posibl.
"Prif nod yr uned hon yw darparu gofal adsefydlu a stôc rhagweithiol er mwyn helpu i leihau namau ac anableddau gymaint â phosibl ac i wella'r tebygolrwydd o fyw gartref a'u gwneud yn fwy tebygol o fod yn annibynnol yn eu bywydau o ddydd i ddydd."
Mae'r uned yn rhan o Ward Strôc bwrpasol â 12 gwely i gleifion mewnol sy'n cael ei chynnal gan y tîm amlddisgyblaethol sydd ynghlwm wrth eu hadsefydliad.
Anogir cleifion i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymarferion sydd â'r bwriad o hybu adferiad ac annibyniaeth, gan gynnwys tasgau hunanofal o ddydd i ddydd, cerdded a chyfathrebu a thasgau gwybyddol - a deellir bod pob un o'r rhain yn gwella'r tebygolrwydd o gael adferiad yn dilyn strôc.
Dywedodd Dr Salah Elghenzai, Meddyg Ymgynghorol ac Arbenigwr Strôc yn Ysbyty Gwynedd: "Gall llawer o gleifion mewnol yn yr ysbyty sy'n cael adferiad yn sgil strôc fod yn segur yn ystod rhannau o'r dydd, sy'n rhoi eu hadferiad mewn perygl, yn ogystal â chynyddu'r risg o gael cyflyrau eraill fel eiddilwch.
"Bydd yr uned newydd yn Ysbyty Eryri yn helpu i leihau'r risgiau hyn a bydd y cleifion yn elwa ar adsefydlu a gofal strôc rhagweithiol, a fydd yn golygu eu bod yn fyw tebygol o oroesi'r strôc ac i ddychwelyd adref i fyw bywyd annibynnol."