28.09.2023
Mae timau haematoleg ac ymchwil yn Ysbyty Glan Clwyd wedi ennill yr ail safle am gymryd rhan mewn treialon ac astudiaethau'n ymwneud â Lewcemia Myeloid Acíwt (AML) mewn seremoni wobrwyo genedlaethol fawreddog.
Daeth y timau'n agos i'r brig yng nghategori Tîm y Flwyddyn am Dreialon AML Cenedlaethol yn nigwyddiad blynyddol yr Academi Lewcemia Myeloid Acíwt ym Mirmingham.
Roedd eu cyflawniad hyd yn oed yn fwy trawiadol gan mai hwnnw oedd yr unig grŵp ysbyty cyffredinol dosbarth i roi cynnig arni, ochr yn ochr ag ysbytai a chanolfannau rhagoriaeth mwy o faint.
Mae mwy na 80 o ysbytai ar draws y DU yn trin AML a soniodd y panel dyfarnu am sut roedd Ysbyty Glan Clwyd yn sefyll allan o blith yr holl geisiadau eraill.
Gwnaeth y panel dyfarnu ganmol ymrwymiad Ysbyty Glan Clwyd i ymchwil AML, mewn canolfan lai o faint gydag anoddau prin.
Mae arbenigwyr AML o bob rhan o'r DU yn cyfarfod yn yr Academi i drafod y triniaethau a'r ymchwil diweddaraf.
Daeth y gydnabyddiaeth am y gwaith yn Ysbyty Glan Clwyd yn ymwneud â threialon AML Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Canser, treialon Rhaglen Cyflymu Treialon (TAP), recriwtio cleifion ac ymgysylltu â grwpiau cleifion.
Gwnaeth y beirniaid hefyd gydnabod y gwaith a wnaed i ryngweithio â'r gymuned leol er mwyn gwella darpariaeth treialon AML a haemato-oncoleg, ynghyd ag ymchwil a datblygiad sydd wedi'u noddi i ddatblygu treialon AML yn y dyfodol yn y DU.
Roedd canmoliaeth hefyd am gyfraniad mawr at astudiaethau AML mawr ar draws y DU gan weithio ar yr un pryd ar astudiaethau haemato-oncoleg, fel treialon myeloma a lymffoma.
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)