Mae tîm y GIG sy’n cefnogi mamau newydd a merched beichiog sy’n profi anawsterau iechyd meddwl yn camu i’r adwy trwy gydol mis Mai i godi arian hanfodol ar gyfer elusen amenedigol.
Mae aelodau o dîm Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cerdded 165 milltir er mwyn tynnu sylw at y pellter o'u canolfan yng Ngogledd Cymru i'r unig uned iechyd meddwl arbenigol ar gyfer mamau a babanod yn y wlad sydd wedi’i lleoli yn Abertawe. Penllanw’r daith fydd cerdded i fyny Moel Famau ar 26 Mai.
Wrth wneud hynny, maen nhw'n gobeithio codi arian hanfodol ar gyfer Action on Postpartum Psychosis – elusen yn y DU sy'n cefnogi merched a'u teuluoedd trwy un o'r mathau mwyaf difrifol o salwch meddwl amenedigol.
Yn gynharach yn ystod y mis hwn, cyhoeddwyd bydd uned arbenigol newydd i famau a babanod yn agor yn Ysbyty Iarlles Caer yn 2024 , i gefnogi rhieni o Ogledd Cymru, Swydd Gaer a Glannau Mersi.
Bydd y cyfleuster 8-gwely pwrpasol newydd hwn yn lleihau amseroedd teithio yn sylweddol i rieni o Ogledd Cymru, sydd ar hyn o bryd yn cael cynnig mynediad at unedau arbenigol ym Manceinion, Chorley, Birmingham a Nottingham.
Bydd un o bob pedairr o ferched yn profi problemau iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol, a bydd y mwyafrif helaeth o’r rhain yn derbyn cymorth mewn lleoliad cymunedol, heb fod angen mynd i uned mamau a babanod.
Ers 2021, mae Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol BIPBC wedi cefnogi dros 1,000 o ferched sy’n dioddef â phroblemau iechyd meddwl enbyd, megis seicosis ôl-enedigol, iselder cynenedigol ac ôl-enedigol, a gorbryder; anhwylder gorfodaeth obsesiynol cynenedigol; materion ymlyniad difrifol a thrawma wrth eni.
Dywedodd Deborah Griffin, Rheolwr Gwasanaethau Amenedigol: “Mae Action on Postpartum Psychosis (APP) yn elusen sy'n agos at ein calonnau i gyd, gan ein bod ni fel tîm yn gweld o lygad y ffynnon pa mor ddinistriol y gall y cyflwr hwn fod i ferched beichiog a mamau newydd a’r teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi.
"Mae’r elusen dan sylw hefyd yn darparu addysg, hyfforddiant a hyrwyddo iechyd i godi ymwybyddiaeth o seicosis ôl-enedigol a salwch meddwl amenedigol sy'n hanfodol er mwyn cynorthwyo gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ac asiantaethau perthynol eraill i gynyddu’r galw er mwyn sicrhau bod merched yn cael y gofal cywir ar yr adeg gywir gan y bobl gywir.
“Mae’r elusen yn rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i famau, rhieni a’u teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan Seicosis Ôl-enedigol, ac rydym yn mawr obeithio y bydd pobl yn rhoi’n hael tuag at yr achos haeddiannol hwn.”
Mae Harriet Brigham ymhlith y rhai sydd wedi elwa o'r cymorth arbenigol sy’n cael ei ddarparu gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol BIPBC. Datblygodd anhwylder straen wedi trawma yn dilyn genedigaeth gynamserol ei phlentyn cyntaf. O ganlyniad, pan ddaeth yn feichiog gyda’i hail blentyn, profodd orbryder dwys.
Dywedodd: "Mae'r tîm iechyd meddwl amenedigol wedi bod yn rhan hanfodol o fy mywyd, ac nid wyf eisiau dychmygu sut byddwn wedi ymdopi gyda fy meichiogrwydd a’m gorbryder hebddyn nhw. Mae'r gwasanaeth yma yn hollbwysig a does dim cywilydd cyfaddef eich bod angen help. Llwyddodd Sian (Ymarferydd Iechyd Meddwl Amenedigol) i wneud fy mywyd yn well o lawer ac fe fyddwn wedi bod ar goll hebddi. Ni allaf fyth ddod o hyd i'r geiriau yn llawn i ddweud diolch am yr hyn a wnaeth y tîm.”
Elwodd Mel Woodruff o’r gwasanaeth cyn geni ei merch gyntaf o’r enw Willow ym mis Mai 2022. Talodd deyrnged i’r gefnogaeth a ‘achubodd ei bywyd’ gan y tîm yn dilyn eu cymorth yn ystod ei beichiogrwydd.
“Roeddwn yn teimlo na fyddwn yn cael fy meirniadu ac roedden nhw ar fy ochr i. Cefais feddyginiaeth ac fe wnaethon nhw gynllun rheoli a achubodd fy mywyd yn llwyr yn ystod fy meichiogrwydd. Roedd y cynllun hwn i gyd yn ymwneud amdana i, fy heriau a'r ffordd orau i'm helpu. Roedd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw yn fy ffolder beichiogrwydd fel bod pob aelod o staff mamolaeth yn gallu ei ddarllen, a doedd dim angen i mi egluro fy sefyllfa bob tro. Nid oeddwn eisiau cael fy nhrin yn arbennig, y cyfan roeddwn ei heisiau oedd i bobl beidio â fy meirniadu a bod yn glên gyda mi. O’r tu mewn roeddwn yn sgrechian am gymorth a chysur ganddyn nhw. Rhoddodd y fath deimlad o ryddhad i mi nad oedd angen i mi egluro fy mhroblemau i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar bob ymweliad. Roeddwn yn teimlo’n anweledig.”
I noddi tîm Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol BIPBC neu i wybod mwy am eu her elusennol, ewch i: https://www.justgiving.com/page/perinatalteambcuhb.