Neidio i'r prif gynnwy

Tîm o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd wedi eu henwebu ar gyfer gwobr genedlaethol

Mae'r prosiect Tuag Adref/Homeward Bound ar restr fer y categori 'Nyrsio Cymunedol' yng Ngwobrau 'Nursing Times' eleni.

Nod y prosiect yw atal oedi ar gyfer cleifion sy'n gadael yr ysbyty drwy gynnig cefnogaeth i'r rhai, sy'n barod i adael yr ysbyty ond sydd efallai'n aros am becyn gofal, yn eu cartref eu hunain.

Dechreuodd y fenter yn 2018 yn Ysbyty Alltwen a bellach mae wedi ei chyflwyno ar draws Gwynedd ac Ynys Môn. 

 Dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Ysbytai Cymunedol yng Ngorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym wrth ein boddau i gael ein henwebu am y categori hwn am yr ail flwyddyn yn olynol. 

"Mae'r prosiect hwn wedi mynd o nerth i nerth ac mae bellach ar waith ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gyda'r gobaith i'w gyflwyno ar draws y Bwrdd Iechyd. 

"Mae'r tîm o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn gweithio gyda phobl sydd bron yn barod i'w rhyddhau. Yna maent yn cefnogi'r cleifion hyn pan maent yn barod i adael yr ysbyty ac yn helpu i barhau â'u hadferiad yn y cartref. 

"Maent hefyd yn cefnogi cleifion dementia sydd angen ychydig o amser i ail-gyfeiriadu eu hunain ar ôl gadael yr ysbyty, yn ogystal â chleifion lliniarol yn y gymuned sy'n dymuno marw gartref gyda'u teuluoedd. 

"Mae'r fenter hon, drwy roi'r cleifion yn gyntaf a sefydlu eu hanghenion, cyd weithio ag aelodau'r tîm amlddisgyblaethol wedi dangos darpariaeth ragorol a gwell gofal iechyd i'n cleifion."