Tîm gofal iechyd o Wrecsam yn ennill gwobr genedlaethol benigamp am eu gwaith yn dod â chwerthin a hwyl i bobl yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol gan salwch meddwl.
Staff o Ward Tryweryn yn Uned Heddfan Ysbyty Maelor Wrecsam yn trechu cystadleuaeth ffyrnig gan dimau'r GIG o bob rhan o'r DU i gael eu henwi'n Dîm y Flwyddyn gan Nursing Times.
Mae'r wobr fawreddog wedi'i rhoi er mwyn cydnabod newidiadau "anhygoel" y mae'r tîm wedi'u gwneud i Ward Gofal Dwys Seiciatrig Tryweryn sydd ag wyth gwely, sy'n rhoi gofal a chymorth i bobl sydd â salwch mor ddifrifol nad oes modd eu trin yn ddiogel ar ward iechyd meddwl cyffredinol.
Gwnaeth staff Ward Tryweryn weithio gyda chleifion presennol a blaenorol trwy sefydliad cynnwys defnyddwyr gwasanaeth o'r enw Caniad er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o gynnig gofal er mwyn gwella profiad cleifion, a lleihau nifer y cyfyngiadau.
Mae hyn wedi cynnwys cyflwyno ystod o weithgareddau a therapïau newydd ar y ward, gan gynnwys sesiynau ioga i'r cymalau, tylino dwylo a phobi, yn ogystal ag 'ystafell bwrw bol ac ymlacio' newydd, sydd wedi'i dylunio gan gleifion.
Mae gan yr ystafell bwrw bol ac ymlacio soffa, blancedi trymach, olewau lleddfol, goleuadau ar gyfer yr hwyliau a chlustffonau atal sŵn i wrando ar gerddoriaeth trwyddynt.
Dywedodd Denise Charles, Rheolwr Gwasanaeth Caniad: “Mae gwahanol bobl yn gollwng stêm mewn gwahanol ffyrdd," meddai Denise.
“Os yw rhywun yn teimlo nad yw'n gallu mynegi ei hun, efallai y bydd yn gofidio drosto.
“Yn hytrach na gorfod atal yr unigolyn yn ddiogel, gallwn arwain pobl tuag at yr ystafell ddiogel a'u hannog i ryddhau popeth, neu i orwedd o dan y flanced drymach yn unig. Rydym yn rhoi cysur iddynt."
Ers cyflwyno'r newidiadau, mae staff Ward Tryweryn wedi llwyddo i haneru nifer y cleifion y defnyddiwyd mesurau atal arnynt, ac mae sgoriau boddhad cleifion wedi gwella'n sylweddol ar yr un pryd.
“Mae mwy o chwerthin o lawer ar y ward erbyn hyn gan ei fod wedi'i arwain gan gleifion" esboniodd Denise.
“Trawma yw llawer o'r hyn sy'n gwneud pobl yn sâl iawn. Ac mae cleifion yn sôn wrthym eu bod yn teimlo'n ddiogelach - dyna'r cwbl y gallwn ei ofyn."
Yn ogystal â chael effaith bositif ar gleifion, mae'r lleihad mewn technegau atal wedi arwain at lai o waith papur i staff, gan ganiatáu iddynt gael mwy o gyswllt therapiwtig gyda chleifion.
Dywedodd Matt Jarvis, Rheolwr y Ward: “Mae'r cyfan yn syml iawn a dweud y gwir - gofyn sut gallwn gefnogi anghenion unigol pobl, a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud.
“Ac yna rydym ni i gyd yn gysylltiedig. Mae wedi dod yn gymuned fach lle bo gan bawb berthnasau a chysylltiadau.
“Yn hytrach na gorfodi cleifion i gyrraedd ein meini prawf ni, rydym ni hefyd yn cyrraedd eu meini prawf nhw. Byddwn yn cyfarfod â nhw pan fyddant yn wynebu argyfwng a rhoi cymorth iddynt yn y ffordd a ddymunant."
Mae Tony Carr yn arbenigwr trwy brofiad ac yn gynhwysydd Caniad sydd wedi bod ynghlwm wrth y prosiect o'r dechrau.
Comisiynwyd Caniad gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth a'u gofalwyr, a chaiff ei gynnal gan CAIS, sy'n elusen adferiad a gwellhad, a'r elusen iechyd meddwl Hafal.
Dywedodd: “Roeddwn i wedi bod allan o wasanaethau dadwenwyno oherwydd alcohol am dair wythnos ac roedd angen i mi ddod o hyd i rywbeth positif i'w wneud ar y pryd, felly cyflwynwyd Caniad i mi.
“I ddechrau, doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl o gwbl a meddyliais 'O, mi wnawn ni wneud iddyn nhw wenu', cofia Tony. “Yna, byddwch yn gweld nad ydych yn helpu eu hapusrwydd yn unig ond rydych hefyd yn helpu eu triniaeth.
“Mae'r preswylwyr wrth eu boddau, maen nhw'n hapus a does dim angen i chi boeni y byddan nhw'n gofidio."
Ychwanegodd Steve Forsyth, Cyfarwyddwr Nyrsio a Gweithrediadau Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC: “Allwn i ddim bod yn fwy balch o ymdrechion y tîm, ac mae'r wobr hon yn dyst i'w hagwedd benderfynol, eu cymhelliant, eu safonau uchel a'u gwerthoedd.
“Mae'r tîm am gael sgyrsiau agored a diddorol gyda phobl a theuluoedd sydd arnynt angen cymorth. Trwy werthfawrogi a gwneud y mwyaf o'r amser y bydd pobl yn ei dreulio ar y ward, mae staff Ward Tryweryn wedi llwyddo i greu amgylchedd therapiwtig gwych lle mae llawenydd a chwerthin yn gynhwysion hanfodol i gynorthwyo pobl yn eu hadferiad."