29 November 2022
Mae cleifion mewn uned iechyd meddwl ddiogel wedi bod yn gwneud ffrindiau â chŵn hysgi fel rhan o brosiect i helpu lleihau eu lefelau straen ac annog ffordd iach o fyw.
Dros fisoedd yr haf, ymunodd y tîm Therapi Galwedigaethol yn Nhŷ Llewelyn yn Llanfairfechan â busnes lleol Mynydd Sleddog Adventures i lunio a lansio prosiect peilot ar gyfer cleifion yn yr uned.
Lansiwyd y ‘Clwb K9’ yn ystod mis Medi ac roedd yn cynnwys cleifion o’r tair ward yn cymryd rhan mewn cwrs pum wythnos yn canolbwyntio ar ryngweithio a lles anifeiliaid.
Dywedodd Ingrid Unsworth, Therapydd Galwedigaethol Arbenigol ar gyfer Gwasanaeth Seiciatrig Fforensig Gogledd Cymru: “Roedd pob sesiwn wythnosol yn canolbwyntio ar wahanol agweddau, er enghraifft roedd wythnos un yn canolbwyntio ar ymddygiad cŵn ac roedd wythnos dau yn edrych ar les anifeiliaid.
“Cafodd bob claf ei baru gyda’u cyfaill hysgi eu hunain ac ar ddiwedd pob sesiwn byddent yn mynd â’u ci am dro o amgylch yr ardd. Cymerodd cleifion gyfrifoldeb yn y sesiynau am ofal a thriniaeth eu hysgi, gan sicrhau bod ganddynt ddŵr glân a’u bod yn derbyn gofal.
“Roedd yr adborth a gawsom gan y cleifion yn eithriadol o gadarnhaol, ac yn rhagori ar ein disgwyliadau a’n gobeithion cychwynnol hyd yn oed.
“Rhoddodd eu hymweliadau hefyd hwb i staff yr ysbyty gyda llawer yn cymryd rhan ac yn mwynhau’r sesiynau – roedd hyn yn helpu i godi morâl ac yn rhoi llawer o resymau i ni wenu bob wythnos pan ddigwyddodd y sesiynau a gwelsom y cŵn yn cyrraedd.
“I wneud yn siŵr ein bod ni’n hybu ffordd iach o fyw, fe wnaethom ni gynnal pob sesiwn yn yr awyr agored – ym mhob tywydd!”
Dywedodd Joe Swiffen, Cyfarwyddwr Cwmni yn Mynydd Sleddog Adventures, sydd wedi gweithio i’r Gwasanaethau Prawf o’r blaen: “Roeddwn wrth fy modd pan ofynnwyd i mi fod yn rhan o’r peilot hwn a gweld y gwahaniaeth enfawr y mae’r cŵn wedi’i wneud i’r cleifion yn yr uned.
“Ymunodd un claf yn arbennig â’r sesiynau’n dawel iawn ac yn encilgar iawn ac wrth i’r wythnosau fynd heibio, gallem weld ei fod yn dechrau sgwrsio ag eraill – felly roedd y sesiynau wedi bod o gymorth mawr i wella ei hyder a’i sgiliau cyfathrebu.”
Ariannwyd y peilot trwy grant a wnaed yn bosibl o roddion i Awyr Las, Elusen GIG Gogledd Cymru. Mae’r tîm nawr yn gobeithio ailwneud y sesiynau a gynigir yn Nhŷ Llewelyn y flwyddyn nesaf.
Dylai unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth am y prosiect gysylltu ag Ingrid Unsworth yn uniongyrchol drwy e-bostio ingrid.unsworth@wales.nhs.uk