Mae dau redwr brwd yn Ysbyty Gwynedd wedi codi dros £4000 tuag at eu ward trwy gwblhau un o heriau gwydnwch anoddaf Ewrop.
Gwnaeth Chris Hoult, Ymarferydd Cynorthwyol a Nyrs Leanne Baxter, sy'n gweithio ar Ward Tegid, gymryd rhan yn Ras yr Wyddfa eleni sy'n 10 milltir o hyd, gan ei chwblhau mewn ychydig dros ddwy awr.
Gwnaeth y ddau gymryd rhan yn y ras er mwyn codi arian tuag at brynu sganiwr pledren ar gyfer eu ward.
Caiff eu hymdrechion codi arian arian cyfatebol gan Elusen y GIG yng Ngogledd Cymru, Awyr Las, a fydd yn helpu i brynu'r offer.
Dywedodd Leanne, a gymerodd ran yn Ras yr Wyddfa am y tro cyntaf erioed, fod yr her wedi gwella morâl ar y ward.
Dywedodd: “Bu'r ras ei hun yn hynod heriol ond mwynheais y cyfan yn fawr iawn!
“Yr hyn oedd yn gwneud y cyfan yn arbennig oedd bod rhai o'n cydweithwyr wedi cerdded i'r copa i'n cefnogi ni.
“Roedd yn wych iddyn nhw gan nad oedd rhai ohonyn nhw erioed wedi dringo'r Wyddfa o'r blaen.
“Pan wnaethom ni benderfynu gwneud hyn, doeddem ni byth yn meddwl y byddem ni'n codi'r swm sydd gennym ni mewn nawdd - mae'n fwy nag y gallai'r un ohonom ni fod wedi'i ddisgwyl.
“Nid yn unig mae wedi helpu i godi swm mor anhygoel ond mae hefyd wedi gwella morâl y tîm ar y ward.
Dywedodd Chris, a ddechreuodd hyfforddi Leanne dros flwyddyn yn ôl, ei fod yn hynod falch o'i hymdrechion yn Ras yr Wyddfa.
“Roedd yn bleser cael rhedeg yn y ras yma gyda chydweithiwr a threulio amser gyda hi o ddechrau ei hyfforddiant hyd at nawr - mae'r hyn y mae hi wedi'i gyflawni'n wych.
“Hoffem ni ddiolch i bawb am eu rhoddion hael, rydym ni wedi cael cymorth gwych gan staff yn Ysbyty Gwynedd sydd wedi helpu i godi arian trwy stondinau cacennau a hefyd gan berthnasau rhai o'n cleifion sydd wedi rhoi'n hael," meddai.
Dywedodd Victoria Seddon, Rheolwr Ward Tegid, y bydd eu sganiwr pledren newydd yn gwella gofal i'w cleifion ar y ward.
Dywedodd: “Rydym ni mor ddiolchgar i bawb am eu cymorth yn codi arian, bydd meddu ar ein sganiwr pledren eu hunain wir o fudd i'n cleifion wroleg a cholorectol.
“Mae'n ddarn o offer y mae angen i ni ei ddefnyddio o ddydd i ddydd ac mae'n helpu i wella diogelwch cleifion a hefyd i wneud ein cleifion yn fwy cyfforddus."