14.02.22
Mae un o gyn weithwyr y Bwrdd Iechyd, a fu'n dioddef poen lethol dros gyfnod o flynyddoedd wedi esbonio sut y gwnaeth meddyg craff o Ysbyty Glan Clwyd ganfod cyflwr anghyffredin iawn o'r ymennydd.
Bu Joanne Robertson, o Abergele, yn dioddef am ddegawd gyda phoen fwyfwy dirfawr yn ei phen, problemau gyda'r cof, golwg aneglur, problemau gyda'r coluddyn a phroblemau gyda chydbwysedd cyn derbyn diagnosis camffurfiad Chiari.
Wrth iddi aros am un o blith dwy o lawdriniaethau mawr ar yr ymennydd i reoli'r cyflwr, gwnaeth Joanne, sy'n fam i ddau o blant gofnodi ei phrofiadau am yr anhwylder anghyffredin mewn llyfr o'r enw Chiari and Me - It's Not Just a Headache.
Nod y cyn oruchwyliwr switsfwrdd ysbyty oedd helpu'r rhai sy'n dioddef gyda'r anhwylder - a'u teuluoedd - ac "i roi gobaith i bobl ein bod yn gallu byw gyda'r cyflwr".
I'r meddyg ymgynghorol Sanghamitra Chakrabarti y mae'r diolch am ei diagnosis a'i thriniaeth ddilynol, a oedd yn adnabod symptomau eang Joanne gan drefnu sgan o'r ymennydd i gadarnhau'r anhwylder.
Dywedodd Joanne, sy'n 50 oed: "Rydw i'n lwcus i fod yma. Yn y llyfr, rydw i'n diolch i Dr Chakrabarti am drefnu'r sgan i mi. Roeddwn i wedi bod yn dioddef gyda phroblemau am fwy na deng mlynedd ac roedd y digwyddiadau'n codi fwyfwy. Cefais ddiagnosis IBS, ond ers fy llawdriniaeth, nid yw wedi effeithio arnaf.
"Cefais wybod fy mod i'n dioddef o feigryn. Allwn i ddim rheoli fy nhymheredd a'r esboniad a roddwyd dros hyn oedd y menopos. Cefais wybod y dylwn i gael ffisiotherapi ac osgoi straen. Dros y blynyddoedd, cefais fy anfon i bob man a'r cyfan roeddwn i'n ei gael oedd cyfres o ddiagnosisau unigol."
Yn y pen draw, dechreuodd Joanne stopio anadlu ar adegau ac, ar ôl llewygu un diwrnod, aed â hi ar frys i adran achosion brys (ED) YGC.
Cafodd endosgopi uwch i weld p'un a oedd ganddi ganser y gwddf a phigiad yn y meingefn, i wirio am lid yr ymennydd, ond roedd y meddygon yn dal i fod mewn penbleth am yr hyn a oedd yn achosi ei symptomau.
Dim ond ar yr adeg y bu i Dr Chakrabarti anfon Joanne i gael ei sgan, gan ei bod wedi gweld camffurfiad Chiara o'r blaen, y cafodd ddiagnosis.
"Roedd hyd yn oed cyrraedd y cam yma yn beth mawr achos pan fydd poen Chiari yn eich ymennydd, mae'n teimlo fel petasai'r pen yn cael ei rwygo i ffwrdd," meddai. "Felly roedd ei chlywed hi'n dweud 'nid yw hyn yn normal' ac yn cymryd y peth o ddifrif yn hynod bwysig i mi.
"Dim ond pan wnaeth Dr Chakrabarti roi holl ddarnau'r pos at ei gilydd y cefais y diagnosis."
A hithau heb glywed am gamffurfiad Chiari cyn cael ei diagnosis, aeth Joanne ati i ymchwilio i'r cyflwr ar-lein - ond ni ddaeth o hyd i fawr ddim o wybodaeth ac roedd hyn yn codi ofn arni.
Dywedodd: "Roeddwn i'n meddwl bod angen i wybodaeth fod ar gael a'i bod yn werth chweil rhoi gwybod i bobl am hyn."
"Roeddwn i'n awyddus i adrodd y stori o bersbectif fy ngŵr Andrew hefyd gan ei fod yn effeithio ar y teulu cyfan. Mae gan bawb sy'n dioddef o Chiari bryderon a gofidiau teuluol."
Mae camffurfiad Chiari yn digwydd pan fydd bôn yr ymennydd yn gwthio i lawr ar y gofod lle mae'r asgwrn cefn wedi'i leoli ac mae'n digwydd yn achos un ymhob 1,000 o bobl.
Fel y digwyddodd yn achos Joanne, gall achosi i donsiliau'r ymennydd ddisgyn. Maent yn rhan o'r serebelwm, sydd wedi'i leoli yng ngwaelod yr amygdala - sef rhan o'r ymennydd sy'n rheoli nifer o swyddogaethau pwysig o ran gweithrediad sylfaenol, emosiynol a gyda’r cof.
Mae llawfeddygon yn tynnu rhan o'r benglog i leddfu pwysau, gyda'r nod o well llif hylif o amgylch yr ymennydd a chan ganiatáu iddo symud i fyny oddi wrth yr asgwrn cefn.
Roedd y poenau llethol ym mhen Joanne wedi'u hachosi gan y pwysau yr oedd hyn wedi'i achosi.
Yn ystod ei llawdriniaeth gyntaf yng Nghanolfan Walton, ym mis Mehefin 2018, tynnwyd rhan o waelod ei phenglog a chafodd tonsiliau ei hymennydd eu gwahanu oddi ar linyn y cefn - ond yn fuan iawn, daeth i'r amlwg bod y pwysau'n dal i fod yno.
Ym mis Medi 2018, penderfynodd y meddygon ymgynghorol i dynnu mwy o'i phenglog ymaith, serio rhan o'i hymennydd ac i osod plât metel.
Er gwaethaf ei diolchgarwch i'r rhai a roddodd driniaeth iddi, mae Joanne yn dal i fod â llawer o broblemau i ddelio â nhw o ddydd i ddydd - ond mae'n dal i fod yma ac mae'n benderfynol o helpu eraill i ddelio â'r cyflwr.
Datgelodd: "Rydw i'n cofio teimlo fy mod i'n hunanol iawn ac yn pendroni a ddylwn i gael yr ail lawdriniaeth oherwydd yr hyn y byddai'r teulu yn gorfod mynd trwyddo - fe allwn i fod wedi gadael fy mhlant.
"Fe allwn i eistedd ar y soffa a siarad ag Andrew am ryw hanner awr bob dydd ar yr adeg honno ond gwaeth tri meddyg ymgynghorol gwahanol ddweud bod angen y llawdriniaeth arnaf - neu byddai'r cyflwr yn gwaethygu a byddwn i'n marw.
"Gwnaethant roi gwybod i mi y byddai'r adferiad yn anodd a chefais un neu ddau o ddiwrnodau drwg, ond roeddwn i gartref ar ôl pum niwrnod.
"Yn y llyfr, rydw i wedi manylu ar sut y mae'r cyflwr yn effeithio ar y teulu."
Dywedodd Joanne fod Chiari wedi newid ei bywyd cyfan. Ychwanegodd: "Alla' i ddim gweithio, alla' i ddim canolbwyntio ar bethau.
"Mae fy nghydbwysedd yn erchyll ac rydw i'n dal i gael problemau gyda'r golwg, ond mae'r poenau yn y pen a'r problemau anadlu wedi gwella.
"Mae gen i lai o synhwyriad yn fy nghoes dde a'm braich dde, felly mae'n ymwneud â byw gyda'r cyflwr yn hytrach na derbyn iachâd llwyr.
"Gwnaeth y llawdriniaeth roi terfyn ar y dirywiad i'm hiechyd. Nid yw'n iachâd, mae'n rhoi terfyn ar y symptomau'n unig - ond rydw i'n brawf bod gobaith i'r rhai sy'n dioddef gyda'r cyflwr yma."
I gael rhagor o wybodaeth am gamffurfiad Chiari, ewch i: Camffurfiad Chiari - NHS (www.nhs.uk)
Mae llyfr Joanne, Chiari and Me – It’s Not Just a Headache, ar gael trwy e-lyfrau Kindle ac ar Amazon ar ffurf copi caled.