Mae dros 1.6 miliwn o frechlynnau COVID-19 wedi'u rhoi i bobl sy'n byw neu'n gweithio yng Ngogledd Cymru.
Gwaith caled ein staff a'n gwirfoddolwyr sydd wedi sicrhau'r llwyddiant sylweddol hwn, ac mae wedi gwneud cyfraniad allweddol at yr ymateb i bandemig COVID-19.
Hyd yn hyn, mae dros 50,000 o bigiadau wedi'u rhoi fel rhan o raglen pigiadau atgyfnerthu y gwanwyn - y nifer fwyaf yng Nghymru - ac mae cynlluniau bellach yn cael eu llunio ar gyfer y rownd ehangach o frechlynnau atgyfnerthu a gaiff eu rhoi yn yr Hydref.
Dywedodd Gill Harris, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae ymdrechion anhygoel ein staff, contractwyr gofal sylfaenol, sefydliadau partner a gwirfoddolwyr wedi'n helpu ni i gynnal y momentwm y rhaglen frechu fwyaf sydd wedi cael ei darparu gan y GIG.
"Llwyddiant y rhaglen frechu sydd wedi cynorthwyo i sicrhau gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n marw neu'n gorfod cael triniaeth mewn ysbyty yn sgil y firws, ac yn y pen draw, i'w cynorthwyo i ddychwelyd at ffordd fwy arferol o fyw.
"Rydym wrthi'n llunio ein cynlluniau ar gyfer y rownd nesaf o bigiadau atgyfnerthu yn ddiweddarach eleni, ond buasem yn annog y sawl sydd heb gysylltu â ni i wneud hynny oherwydd bydd y gwahoddiad i gael brechiad yn dal ar gael i bawb."
Mae brechlynnau wedi'u roi mewn cartrefi gofal ac mewn dros 200 o leoliadau gwahanol, yn cynnwys meddygfeydd, canolfannau brechu torfol, clinigau symudol a fferyllfeydd cymunedol, fel rhan o ymgyrch logistaidd enfawr ers lansio'r rhaglen yn Rhagfyr 2002.
I drefnu i gael eich brechiad COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004.