Mae mentrau newydd o fewn y Fferyllfa yn caniatáu i nyrsys dreulio mwy o amser yn gofalu am gleifion yn ystod yr achosion o COVID-19.
Mae timau Fferyllfa ar draws y Bwrdd Iechyd wedi bod yn cefnogi eu cydweithwyr drwy roi meddyginiaeth sy’n barod i’w weinyddu i’w ddefnyddio ar gyfer cleifion mewn Gofal Critigol.
Mae’r adrannau yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd wedi paratoi dros 3,000 o ddosys i gleifion hyd yn hyn.
Dywedodd Andrew Merriman, Fferyllydd Gwasanaethau Technegol: “Byddai’r feddyginiaeth hon fel arfer yn cael ei pharatoi gan staff nyrsio sy’n gweithio mewn Gofal Critigol.
“Mae’r dasg hon wedi bod yn fwy heriol oherwydd y cynnydd yn y galw a’r ffaith bod angen i’r nyrsys wisgo Offer Diogelu Personol (PPE) llawn.
“Mae defnyddio’r Peiriant Llenwi Chwistrelli Smartfiller yn Ysbyty Glan Clwyd, sef y cyntaf o’i fath yng Nghymru, wedi cynyddu’r capasiti’n fawr i’r tîm Fferyllfa fel eu bod yn gallu creu chwistrelli mewn niferoedd sylweddol.
“Mae cynhyrchiad fel hyn wedi arbed llawer o amser i nyrsys, gan ganiatáu iddynt roi mwy o amser i ofalu am gleifion yn uniongyrchol.
“Mae adrannau Fferyllfa’r tri ysbyty wedi cydweithio i sicrhau bod y feddyginiaeth chwistrellol sy’n barod i’w weinyddu ar gael pan fydd ei angen ar draws y Bwrdd Iechyd.”
Mae’r timau Fferyllfa wedi cymryd y gwaith ychwanegol hwn ymlaen wrth barhau gyda’u gwasanaethau arferol ar gyfer adrannau’r ysbytai cyffredinol, yn cynnwys gwasanaethau canser.
Maent wedi gallu gwneud hyn drwy groesawu staff Fferyllfa sydd wedi ymddeol yn ddiweddar yn ôl sydd wedi rhoi adnodd ychwanegol a brwdfrydedd i gefnogi’r timau i ddarparu’r gwasanaeth gwerthfawr hwn.
Yn Ysbyty Gwynedd sefydlwyd canolfan ganolog ar ail lawr yr ysbyty i sicrhau bod gwrthfiotigau yn cael eu gweinyddu’n ddiogel a phrydlon i’r cleifion ar y wardiau.
Yn flaenorol mae staff nyrsio wedi paratoi a gweinyddu meddyginiaeth i gleifion ar y wardiau, a fyddai’n cymryd oddeutu 15-20 munud ar gyfartaledd.
Sefydlwyd y ganolfan i leihau’r galwadau cynyddol ar amser nyrsys ac i ddarparu dull tîm at ofal cleifion.
Dywedodd Sue Murphy, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Fferyllfa a Rheoli Meddyginiaethau ar gyfer Ardal y Gorllewin Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Mae hwn yn brosiect arloesol ar y cyd rhwng y Fferyllfa a’r arweinwyr nyrsio i sefydlu’r gwasanaeth ar sail ward.
“Caiff y ganolfan ei staffio gan nyrsys cofrestredig, cynorthwywyr gofal iechyd ynghŷd â chefnogaeth gan ein tîm Porthora.
“Mae staff y Fferyllfa wedi rhannu eu harbenigedd i ddatblygu’r polisau a’r gweithdrefnau ar gyfer paratoi amryw o feddyginiaethau mewnwythiennol yn rheolaidd i’w gweinyddu i gleifion ar y wardiau yn yr ysbyty. Caiff y cynnyrch eu paratoi fel eu bod yn gallu cael eu defnyddio ar unwaith.
“Bob dydd bydd y wardiau yn anfon archebion i’r ganolfan lle bydd staff yn paratoi’r gwrthfiotigau, ac yna byddant yn cael eu danfon i’r wardiau.
“Yn ogystal â rhyddhau nyrsys o’r dasg hwn sy’n cymryd llawer o amser fel eu bod yn gallu treulio mwy o amser yn gofalu am eu cleifion, mae’r gwasanaeth paratoi mewnwythiennol canolog yn lleihau gwastraff a lleihau costau hefyd.”
Mae cynlluniau ar waith i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ar draws safleoedd y ddau brif ysbyty arall a dangoswyd llawer o ddiddordeb gan ysbytai eraill ar draws y Deyrnas Unedig.
Ychwanegodd Berwyn Owen, Prif Fferyllydd: “Rwy’n falch iawn o’r timau Fferyllfa ar draws y Bwrdd Iechyd sydd wedi camu i mewn i gefnogi eu cydweithwyr yn ystod y pandemig hwn.
“Mae llawer o waith ac ymdrech wedi mynd i mewn i’r prosiectau hyn ac mae’n wych gweld sut mae’n rhoi budd i’n timau nyrsio ar draws y safleoedd ysbyty.”