Bydd prosiect newydd yn helpu i wella amseroedd triniaeth a lleihau'r pwysau ar feddygon teulu a gwasanaethau Gofal Brys y gaeaf hwn.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllideb Llywodraeth Cymru hyd nes diwedd mis Mawrth 2021 ar gyfer prosiect Canolfan Gofal Cychwynnol Brys (UPCC) yn Wrecsam a Sir y Fflint.
Bydd y fenter yn darparu dwy ganolfan gofal cychwynnol, un o fewn yr adran Cleifion Allanol yn Ysbyty Maelor Wrecsam a'r llall yn Uned Mân Anafiadau'r Wyddgrug.
Bydd y prosiect yn targedu achosion gofal cychwynnol brys dydd gan greu capasiti i gefnogi meddygfeydd a lleihau nifer y bobl sy'n mynychu Adrannau Achosion Brys yn ddiangen.
Bydd tîm sy'n cynnwys Uwch Nyrs Ymarferwyr, Meddygon Teulu a Ffisiotherapyddion yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gofal i bobl sydd wedyn gofyn am ofal gan eu meddyg teulu neu eu Hadran Achosion Brys.
Bydd y tîm UPCC yn gweithio rhwng 8:30am a 8:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu allan i'r oriau hyn, bydd y tîm Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau yn parhau i gefnogi cleifion ac Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam ble mae'n briodol.
Ers agor yn Wrecsam ar 9 Rhagfyr, mae 24 o bobl wedi eu cyfeirio at y gwasanaeth gan feddygfeydd yn yr ardal ac Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae cynlluniau ar waith i agor ail uned yn y Wyddgrug dros yr wythnosau nesaf.
Nid yw'r gwasanaeth yn cynnig clinig galw heibio. Bydd cleifion yn cysylltu â'u meddygfa yn y lle cyntaf, a fydd yna'n penderfynu a ydynt yn addas i'w cyfeirio at y tîm UPCC. Bydd cleifion sy'n mynychu'r Adran Achosion Brys yn cael eu brysbennu yn y ffordd arferol a chael eu cyfeirio at y tîm UPCC os yw'n briodol.
Dywedodd Simon Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Gofal Cychwynnol: "Mae hwn yn brosiect cyffrous a fydd yn gweld cydweithio agosach rhwng gofal cychwynnol ac eilaidd er budd y cleifion a'r sefydliad.
"Mae meddygfeydd a'n Hadrannau Achosion Brys yn brysur iawn ar y funud. Y syniad yw y byddwn yn cymryd rhai materion cleifion nad ydynt yn rhai cymhleth oddi wrth y meddygfeydd a'r Adrannau Achosion Brys, a fydd yn lleddfu'r pwysau arnynt.
"Bydd yn arwain at adolygu cleifion yn fwy prydlon, na fyddant yn gorfod aros am driniaeth gobeithio."
Mae'r cynllun wedi ei ariannu hyd at ddiwedd mis Mawrth, gyda'r posibilrwydd o'i ymestyn. Mae'n un o nifer o brosiectau ar draws Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad at ofal ar gyfer ystod o gleifion y gaeaf hwn.
Dywedodd Dr Elinor Cooper, Meddyg Teulu: "Rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r UPCC a chefnogi fy nghyd feddygon teulu a'r meddygfeydd. Mae'n adnodd gwych i'w gael i allu cefnogi ein cleifion pan fydd ein capasiti wedi ei gyfyngu yn ein meddygfeydd ein hunain a phan mae'r Adrannau Achosion Brys mor brysur