Caiff cyfleusterau chwaraeon a hamdden Prifysgol Bangor eu troi'n ysbyty dros dro er mwyn darparu gwelyau ar gyfer cleifion sydd â symptomau COVID-19.
Bydd rhyw 250 o welyau ychwanegol ar gael i'r GIG yng Nghanolfan Brailsford fel rhan o'r bartneriaeth rhwng y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bydd cleifion sydd â salwch resbiradol o ganlyniad i COVID-19 yn derbyn gofal yn yr ysbyty dros dro.
Dywedodd Mark Polin, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae datblygu ysbytai dros dro fel y rhain yn ganolog i'n cynlluniau i greu'r capasiti ychwanegol sydd ei angen arnom, ochr yn ochr â datblygu lle yn ein hysbytai.
“Hoffwn roi sicrwydd i’r cyhoedd bod y gwaith paratoi ar ganfod safleoedd addas ar y gweill ers cryn amser ac mae bellach yn symud yn ei flaen ar garlam.
“Rydw i wir yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth rydym wedi'i chael gan Brifysgol Bangor i helpu gyda’r ail safle hwn, yn ogystal â’n cydweithwyr yng Nghyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn.
“Mae ein partneriaid ar draws Gogledd Cymru yn cyflawni rôl hollbwysig yn ein hymdrechion i wella capasiti ac i sicrhau ein bod yn barod am gynnydd mewn cleifion sydd wedi'u heffeithio gan COVID-19.
Rydw i’n hynod ddiolchgar am eu cymorth, a byddwn yn parhau i gydweithio â nhw ar yr ymdrech hollbwysig hon.
“Rydym hefyd wedi derbyn llawer o gynigion cymorth gan fusnesau ar draws y rhanbarth a byddwn yn gofyn am gymorth ganddynt lle bo angen er mwyn rhoi’r holl safleoedd ar waith mewn mater o wythnosau.”
“Rydym yn asesu safleoedd yn Sir y Fflint a Wrecsam lle caiff trydydd ysbyty dros dro ei ddatblygu. Byddwn yn cadarnhau’r safle hwnnw dros y dyddiau nesaf pan fydd gwaith asesu a datblygu manylach wedi’u cwblhau.”
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro Iwan Davies: "Mae hwn yn gyfnod digynsail, ac mae'r Brifysgol wedi bod yn ymateb mewn nifer o ffyrdd gwahanol i gefnogi staff y rheng flaen wrth iddynt fynd i'r afael â'r argyfwng.
“Rydym yn falch o fod o gymorth pellach trwy sicrhau bod Canolfan Brailsford ar gael fel ysbyty dros dro i'r gymuned leol."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cyng. Dyfrig Siecyn: “Fel Cyngor, rydym yn trafod yn ddyddiol gyda chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac rydym wedi bod yn rhoi cynlluniau ar waith i’w cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.
“Dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd, Cyngor Ynys Môn a Phrifysgol Bangor er mwyn helpu i sefydlu safle ysbyty dros dro yng Nghanolfan Brailsford ym Mangor.
“Rydym yn falch o gefnogi cyhoeddiad heddiw a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Bwrdd Iechyd a phartneriaid eraill er mwyn cynnig y gofal gorau i’n dinasyddion.”
Bydd Venue Cymru yn Llandudno hefyd yn cael ei drosi i gynnal 350 o welyau ychwanegol, ac mae gwaith adeiladu i ddarparu 80 o welyau eraill ar y gweill ar hyn o bryd yn Ysbyty Glan Clwyd.