Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Jo Whitehead i ymddeol o'r GIG ar ddiwedd y flwyddyn.
Mae Jo wedi cyflwyno ei chynlluniau ymddeol oherwydd amgylchiadau teuluol a bydd yn gadael ei swydd ar 23 Rhagfyr 2022.
Wrth gyhoeddi ei hymddeoliad, dywedodd Jo:
“Mae fy mhenderfyniad i ymddeol ar hyn o bryd yn un personol. Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi dod â rhai heriau iechyd difrifol i fy nhad yng nghyfraith, gyda chanlyniadau i’m gŵr sydd wedi gorfod cyflwyno ei gynlluniau ymddeol ei hun a mynd i’r Almaen i fod gyda’i dad. Mae hyn wedi peri inni ystyried sut yr ydym am dreulio ein hamser ac wedi fy arwain i ddod i’r casgliad ei bod yn bryd imi ymddeol o’m rôl fel Prif Weithredwr.
“Mae fy ngyrfa 37 mlynedd wedi mynd â fi o Sheffield, Caerlŷr, Bryste, Llundain, Swydd Henffordd, Awstralia ac yn ôl adref i Ogledd Cymru – tipyn o daith, gyda phob rôl yn dod â llawenydd a heriau. Rwy’n ddiolchgar am y cyfleoedd y mae’r GIG yng Nghymru a Lloegr wedi’u darparu i mi.
“Mae wedi bod yn fraint fawr cael y cyfle ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac rwy’n falch o’r cyflawniadau yng Ngogledd Cymru na fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth pawb yn y bwrdd integredig a GIG Cymru. Mae BIPBC yn llawn o'r bobl fwyaf anhygoel a dymunaf yn dda i'r sefydliad.
“Mae hwn wedi bod yn benderfyniad hynod o anodd i mi ac yn un nad wyf wedi ei gymryd yn ysgafn. Rwy’n gadael yn gynt nag yr oeddwn wedi bwriadu’n wreiddiol ond mae fy nheulu yn hynod o bwysig i mi ac mae’n rhaid dod yn gyntaf.”
Dywedodd Mark Polin, Cadeirydd BIPBC:
“Mae arweinyddiaeth Jo wedi bod yn hanfodol ar daith y Bwrdd Iechyd ac mae cynnydd da wedi’i wneud yn ystod ei chyfnod yn BIPBC, gan gynnwys lansio cynllun gwella ar draws BIPBC, rhaglen frechu hynod lwyddiannus yn ystod pandemig COVID-19 a llawer o ddatblygiadau ar draws gwasanaethau i gwella gofal cleifion.
“Nid yw ei chyfraniad i iechyd a lles pobl Gogledd Cymru bob amser yn amlwg o ystyried yr heriau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu hwynebu ond mae ei hymagwedd agored a deniadol wedi ein galluogi i fwrw ymlaen â’n hagenda trawsnewid. Mae hi wedi canolbwyntio ar rymuso staff i wneud y gwelliannau ac mae ei harweinyddiaeth wedi cael ei pharchu’n fawr gan staff a phartneriaid.
“Mae ymddeoliad Jo yn golled i ni ond diolch i’w harweinyddiaeth, rydym mewn sefyllfa gryfach i fwrw ymlaen â’n huchelgais i fod yn sefydliad sy’n perfformio’n dda sy’n darparu gofal rhagorol i bobl Gogledd Cymru.
“Hoffwn ddiolch i Jo am ei hymroddiad i’r GIG, i’n cymunedau lleol, ac i bobl Gogledd Cymru.”
Ymunodd Jo â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Prif Weithredwr ym mis Ionawr 2021. Dechreuodd ei gyrfa yn y GIG ym 1985 fel nyrs gynorthwyol a symudodd ymlaen i reoli cyffredinol a arweiniodd at ei rôl Prif Weithredwr gyntaf yn 2001. Mae ei phrofiad yn cynnwys nifer o rolau lefel Bwrdd yng Nghymru, Lloegr a Awstralia gan gynnwys fel Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr, a Chyfarwyddwr Gweithredol.