11/05/2023
Mae Therapyddion Galwedigaethol yn Sir y Fflint a Wrecsam wedi symud i bractisau Meddygon Teulu gan leihau’r amser aros o 9 wythnos ar gyfartaledd.
I gyd-fynd yn well â gwasanaethau gofal sylfaenol, mae Therapyddion Galwedigaethol cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) sy'n cwmpasu Sir y Fflint a Wrecsam, wedi gosod eu hunain o fewn clystyrau Meddygon Teulu’r ardal i ddarparu mynediad cynharach i gleifion, a hynny’n rhan o brosiect sy’n cael ei gefnogi gan Gomisiwn Bevan.
Mae therapyddion galwedigaethol yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl o bob oed sydd â materion iechyd amrywiol, er mwyn eu cynorthwyo i fyw eu bywydau’n well gydag anableddau, anafiadau neu salwch.
Mae'r tîm o therapyddion yn cydweithio â 87% o bractisau yn Wrecsam a Sir y Fflint, ac mae'r amser cyfeirio i weld Therapydd Galwedigaethol ar gyfartaledd wedi lleihau i 1.5 diwrnod, a hynny o 10 diwrnod. Ar ben hynny, mae'r cyfraddau ar gyfer cyfeiriadau brys wedi lleihau i 2.5 yr wythnos ar gyfartaledd, a hynny o 6.5 yr wythnos.
Dywedodd Heather McNaught, Arweinydd Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Corfforol Therapi Galwedigaethol yn Nwyrain BIPBC: "Yn ystod y pandemig, bu'n rhaid i ni roi'r gorau i apwyntiadau rheolaidd, felly manteisiwyd ar y cyfle i wella sut rydym yn gweithio gyda gwasanaethau gofal sylfaenol a chynnig gofal mwy amserol i'n cleifion.
"Bu i ni gwrdd â meddygon teulu ar draws Wrecsam a Sir y Fflint i nodi beth oedd anghenion a blaenoriaethau eu cleifion, a pha adnoddau oedd ar gael iddyn nhw. Daethom i ddeall pe baem yn lleoli ein hunain yn y practisau, byddai modd i ni weithio'n uniongyrchol gyda meddygon teulu a bod o fewn cyrraedd y cleifion.
"Roedd galluogi i Therapydd Galwedigaethol fod yn bresennol yn y practisau yn fodd i sicrhau bod cyfeiriadau’n cael eu gwneud yn gynharach, cyn i gleifion ddirywio neu cyn i faterion pellach godi.
"Mae'r tîm Therapi Galwedigaethol wedi bod yn enghraifft berffaith o groesawu newid cadarnhaol yn ymarferol i fodloni anghenion ein poblogaeth."
Bydd ail gam y prosiect yn edrych ar sut y gall y therapyddion helpu i reoli cyflyrau cleifion gydag ymyrraeth gynnar er mwyn helpu i leihau pwysau cleifion sy'n mynychu gofal sylfaenol ac eilaidd.
Y nod fydd darparu sesiynau ymyrraeth ataliol gyda chleifion mewn gwasanaethau gofal sylfaenol i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni'r mwyaf o ran iechyd a lles. Er enghraifft, eiddilwch, rheoli cyflwr, rheoli gorbryder ac addysg / atal risg syrthio. Drwy ymgysylltu, bydd gan y claf fwy o reolaeth o ran ei anghenion iechyd a lles.
Ychwanegodd Heather: “Bydd y cymorth hwn yn lleihau’r angen am wasanaethau, gan y bydd gan y claf gwell dealltwriaeth o’i gyflwr a sut i’w reoli, gan osgoi’r cynnydd meddygol diangen. Trwy ymgysylltu gyda’r tîm Therapi Galwedigaethol, pe bai’r claf
yn gwaethygu, gall wneud newidiadau i’w anghenion ynghynt, gan osgoi argyfwng sy'n gysylltiedig â dirywiad swyddogaethol neu waeledd y gofalwr.
"Y weledigaeth yn y pen draw ar gyfer gwireddu gwasanaethau Therapi Galwedigaethol cymunedol oedd lleihau’r effaith ar wasanaethau gofal eilaidd drwy hyrwyddo sgiliau iechyd a ffordd o fyw. Yn ogystal, galluogi addasiadau i anableddau a salwch cronig, er mwyn eu galluogi i fyw bywyd yn annibynnol, neu leihau baich y gofal, rheoli cyflwr ac osgoi argyfwng."