19/01/2023
Gall fod yn ofidus i bobl sy’n agored i niwed gael eu derbyn i’r ysbyty neu eu rhyddhau oddi yno, felly mae cynllun peilot newydd o’r enw Bag Coch wedi’i lansio i sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth bwysig sydd eu hangen arnynt wrth law.
Mae cynllun Bag Coch, sy’n cael ei arwain gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi dechrau cynllun peilot 8 wythnos yn Ysbyty Maelor Wrecsam gan weithio mewn partneriaeth â phum cartref gofal preifat ar draws De Wrecsam.
Mae pob cartref gofal wedi dewis tua 20 o’u preswylwyr i fod yn rhan o’r cynllun peilot, felly pan fydd unrhyw un ohonynt yn mynd i’r ysbyty, maent yn mynd â’u Bag Coch gyda nhw sy’n cynnwys eu gwaith papur allweddol, meddyginiaeth ac eitemau personol. Mae’r bag hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am iechyd yr unigolyn i staff yr ysbyty, gan gynnwys unrhyw bryderon iechyd ac unrhyw feddyginiaeth y mae’r claf yn ei chymryd, yn ogystal â beth allai gynhyrfu neu dawelu’r claf.
Dywedodd Lisa Jones-Tattum, Uwch Ymarferydd Nyrsio Cymunedol: “Trwy gael eu holl fanylion wrth law mewn modd cyson, mae’n golygu bod llai o amser yn cael ei dreulio gan staff yr ysbyty yn cysylltu â’r cartrefi gofal i ofyn cwestiynau am eu claf, ac i’r gwrthwyneb, pan fydd claf yn dychwelyd i’r cartref gofal neu’n mynd yno o’r newydd, bydd eu gwaith papur wedi’i ddiweddaru gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn amserol i staff y cartref gofal am eu cyflwr meddygol.
“Gall hyn gynnig tawelwch meddwl i’r cleifion mewn sefyllfa a all fod yn ofidus iawn, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gyflymdra’r gofal y maent yn ei dderbyn.”
Yn ogystal â gwybodaeth feddygol, mae’r Bag Coch hefyd yn cynnwys manylion perthnasau agos a gwybodaeth unigol yn ymwneud â phreswylwyr, gan gynnwys data sylfaenol yn ymwneud â gweithrediad a gallu gwybyddol. Mae hyn yn bwysig ar gyfer yr holl breswylwyr ond yn enwedig i’r rhai hynny sydd â dementia.
Ychwanegodd Natalie Jenkins-Jones, Uwch Ymarferydd Nyrsio Cymunedol: “Rydym wedi gweithio’n dda iawn gyda’r cartrefi gofal sydd wedi bod yn frwdfrydig am y cynllun peilot. Mae gwella’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu â’n gilydd yn esiampl wych o’r gwahaniaeth y gallwn ei wneud pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd, a sut y gall rhywbeth mor syml gael effaith wirioneddol.
Mae cartref gofal Cherry Tree, sy’n rhan o’r cynllun peilot, wedi gwirfoddoli pob un o’i 37 o breswylwyr i gymryd rhan ac mae wedi gweld gwahaniaeth amlwg yn barod.
Dywedodd Tracey Campbell, Rheolwr Cherry Tree: “Rydym yn hynod falch ein bod wedi cael ein gwahodd i fod yn rhan o gynllun Bag Coch, ar ôl profi problemau gyda’n preswylwyr yn cael eu derbyn i’r ysbyty a’u rhyddhau oddi yno yn ddiweddar.
“Rydym yn gobeithio y daw’r cynllun yn safon genedlaethol ac rydym am barhau i fod yn rhan ohono yn y dyfodol, gan weithio’n agos gyda phobl wych lle mae eu hangerdd dros y cynllun yn amlwg bob tro. Rydym yn barod wedi gweld effaith gadarnhaol ar ein preswylwyr a’n staff.”
Mae Canolfan yr Enfys Llannerch Banna, sefydliad gwirfoddol sy’n darparu gofal yng nghartrefi pobl a gofal dydd yn y ganolfan, hefyd wedi ymuno â’r cynllun peilot. Maent wedi rhoi bagiau i’r rhai y maent yn darparu gofal iddynt gartref er mwyn eu helpu rhag ofn bod rhaid iddynt fynd i’r ysbyty.
Dywedodd Elaine Nott, Arweinydd Prosiect Cartref yn Gyntaf: “Mae staff yn yr Adran Achosion Brys a’r mannau derbyn wedi canfod bod cynllun Bag Coch yn ddefnyddiol iawn, ac yn adrodd sut mae’r wybodaeth yn y ffeil wedi cynorthwyo gyda’r broses derbyn cleifion. Mae’r staff wedi canfod ei bod yn hawdd cael gafael ar y wybodaeth, ac mae manylion yr asesiad yn ymwneud â gweithrediad yn darparu cyflwr sylfaenol y claf, sy’n cefnogi staff ac aelodau eraill o’r Tîm Amlddisgyblaethol i ofalu am y preswylydd hwnnw. Mae hefyd wedi bod yn fuddiol wrth gynllunio i’w rhyddhau yn ôl i’r cartref gofal unwaith y byddant wedi gwella ar lefel feddygol.
Bydd y cynllun peilot yn cael ei adolygu yn gynnar yn ystod y flwyddyn gyda’r nod o’i ehangu ar draws Gogledd Cymru.
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio - Sign up (es-mail.co.uk).