25.08.2022
Mae plant a phobl ifanc sy'n byw ledled Gogledd Cymru wedi cyfranogi mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau i helpu i ddatblygu Siarter Plant i sicrhau y byddant yn gallu lleisio'u barn am feysydd sy'n bwysig iddynt.
Gan gydweithio a sefydliadau a chynghorau yng Ngogledd Cymru, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfres o ddigwyddiadau a sesiynau ymgysylltu y gallai pobl ifanc eu mynychu i helpu i lunio'r Siarter Plant.
Mae'r Siarter yn set o safonau y bydd sefydliadau yn cadw atynt wrth wneud eu gwaith i sicrhau y caiff plant a phobl eu trin yn deg a'u bod yn gallu lleisio'u barn.
Dywedodd Scarlett Williams, aelod o Senedd yr Ifanc, sef Cyngor Ieuenctid Wrecsam ac un o'r partneriaid sy'n cefnogi'r Siarter: "Roedd gallu gweithio ar y cyd â sefydliadau gwahanol i ddatblygu digwyddiad y Siarter Plant yn brofiad y gwnes i ei fwynhau yn fawr iawn. Roedd hi'n agoriad llygaid i mi gael gwybod am safbwyntiau pobl ifanc a'u hymateb i'r 'Pum Ffordd at Les'. Roedd gwylio'r digwyddiad yn cael ei gynnal ar ôl gweithio i'w drefnu am fisoedd yn brofiad hynod o foddhaus, ac rwy'n gobeithio y gallwn barhau i gydweithio â BIPBC yn y dyfodol.”
Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a Gwasanaethau Niwroddatblygiad y Bwrdd Iechyd yn arwain y gwaith o ddatblygu'r Siarter, ac maent wedi ymgysylltu â thua 2,400 o blant a phobl ifanc hyd yn hyn.
Yn ôl Wendy Pinder, Pennaeth Nyrsio Dros Dro ar gyfer CAMHS a Gwasanaethau Niwroddatblygiad ac Anableddau Dysgu yn Ardal y Dwyrain, ac Arweinydd y Rhanbarth ar Welliannau wedi'u Targedu i Brofiadau Cleifion: "Mae datblygu'r Siarter yn gyfle gwych i sicrhau bod ein holl staff yn deall beth gall plant a phobl ifanc ddisgwyl ei gael wrth gael gwasanaethau gennym. Ar ôl ei gwblhau, bydd y 'llyfr ryseitiau' hwn yn cynnig fframwaith clir ar gyfer blaengareddau i wella gwasanaethau yn y dyfodol, gan gynnig sicrwydd bod plant a phobl ifanc wedi cael eu clywed ac wedi cael gwrandawiad, a bod diwylliant o lunio a chynhyrchu ar y cyd wedi cael ei ymgorffori wrth wneud newidiadau i'n holl wasanaethau.”
Cynhaliwyd y digwyddiadau yn amrywiaeth o leoliadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn Rheilffordd Talyllyn, gan alluogi plant a phobl ifanc i gyfranogi yn y gwaith o ddatblygu'r Siarter trwy gyfrwng gweithgareddau difyr a rhyngweithiol a oedd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles cadarnhaol a grymuso. Fe wnaeth hynny gynnig profiadau buddiol iddynt a chyfle go iawn i ddylanwadu ar sut mae sefydliadau ledled Gogledd Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc.
Yn ôl Lorraine Simkiss, Rheolwr Masnachol Rheilffordd Talyllyn: "Roedd rhoi cyfle i'r plant ymlacio a chael hwyl mewn amgylchedd diogel a mynegi eu teimladau a'u hemosiynau yn brofiad gwerth chweil. Yn eu sylwadau, dywedodd y plant eu bod 'wedi cael llawer o hwyl' a gofyn 'a allwn ni ddod eto', sy'n profi pa mor angenrheidiol yw'r math hwn o ymgysylltu.
"Roedd Rheilffordd Talyllyn yn falch iawn o fod yn rhan o'r digwyddiad hwn, a buasai'n dda gennym gael cefnogi CAMHS mewn unrhyw ffordd y gallwn ni yn y dyfodol".
Mae CAMHS hefyd wedi bod yn ymgynghori â phobl ifanc mewn ysgolion uwchradd ac mewn grwpiau cymunedol, gan gynnig cyfle iddynt fynegi eu barn a'u safbwyntiau ynghylch sut ddylid datblygu'r Siarter:
Yn ôl Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld y Siarter orffenedig a wnaiff helpu pob plentyn sy'n ymweld â'r Bwrdd Iechyd yn y dyfodol i ddeall i hawliau, a helpu oedolion i sicrhau bod eu hawliau yn elfen hanfodol o'u gwaith.”
Dywedodd Jane Berry, Arweinydd Profiad Cleifion CAMHS: "Bellach, byddwn yn adolygu'r adborth a gawsom gan blant a phobl ifanc yn ein digwyddiadau ymgysylltu diweddar, a chaiff hynny ei ymgorffori yn y Siarter Plant. Ein nod at y dyfodol yw sicrhau y bydd yr holl blant a phobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â BIPBC yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso ac yn gallu lleisio eu barn.”