Mae Pam Wenger wedi cael ei phenodi fel y Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol newydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Fel Gweithiwr Proffesiynol Llywodraethau Siartredig cymwys, gyda 30 mlynedd o brofiad yn gweithio i’r GIG yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â’r Sector Annibynnol, bydd Pam yn gynghorydd allweddol i’r Bwrdd a’r sefydliad llywodraethu corfforaethol ehangach, gan arwain ar wella systemau a phrosesau’r Bwrdd Iechyd.
Dywedodd Carol Shillabeer, y Prif Weithredwr: “Mae’n bleser gennym groesawu Pam i’r uwch dîm arwain. Mae ganddi gyfoeth o brofiad ac arbenigedd i’n cynorthwyo ar ein taith o welliant a chryfhau’r ffordd yr ydym yn gweithio fel Bwrdd Iechyd.
“Mae sicrhau llywodraethu cadarn yn rhan hanfodol o’r ffordd yr ydym yn adeiladau sefydliad effeithiol, ac, fel rhan o hyn, ac er mwyn ein galluogi i wireddu hyn, bydd Pam wrth wraidd y cyfan.”
Dywedodd Pam “Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i fod yn rhan o dîm arwain Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Mae’n fraint arbennig cael y cyfle i fynd i’r afael â’r rôl hon, a gwneud gwahaniaeth i boblogaeth Gogledd Cymru.”
Bydd Pam yn ymuno â’r Bwrdd Iechyd ym mis Ebrill 2024.