Mae dynes o Wrecsam yn gwella o lawdriniaeth canser y fron yn annog pobl i beidio ag oedi cyn cysylltu â'u Meddyg Teulu yn ystod y pandemig COVID.
Daeth Lindsay Adams o hyd i lwmp yn ei bron tuag at ddiwedd mis Hydref 2020 - yn ystod y cyfnod y cyflwynwyd cyfnod atal byr yng Nghymru.
Ffoniodd y ddynes 51 mlwydd oed, sy'n gweithio mewn TG, ei Meddyg Teulu ar unwaith a chafodd gynnig apwyntiad ar yr un diwrnod. Yna, cafodd ei chyfeirio at Ysbyty Maelor Wrecsam am gyfres o brofion diagnostig ble gadarnhaodd arbenigwyr bresenoldeb tiwmor.
Dywedodd: "Cefais fy ngweld gan Feddyg Teulu o fewn tair awr o ddod o hyd i lwmp, roedd yn ofnadwy o gyflym.
"Yna, es i i Uned Seren Wib Wrecsam am brofion pellach, ble cadarnhawyd bod gen i ganser y fron.
"Roedd yn gyfnod brawychus iawn, ond roedd yn gysur bod pethau'n digwydd yn gyflym a chafodd fy llawdriniaeth ei threfnu yn gynnar ym mis Ionawr."
Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2021, gwnaeth y Bwrdd Iechyd y penderfyniad anodd i ohirio mwyafrif y llawdriniaethau wedi’u cynllunio ym Maelor Wrecsam, oherwydd y cynnydd mewn cleifion COVID-19 a oedd yn cael eu derbyn i'r ysbyty.
Yn hytrach, cafodd Lindsay gynnig y llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd, gyda'r Llawfeddyg Bron, Mr Richard Cochrane, sydd fel arfer wedi ei leoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
"Ar y pryd, pan gefais wybod bod llawdriniaethau wedi’u cynllunio wedi eu gohirio yn Ysbyty Maelor dechreuais boeni, roeddwn wedi bod yn hunan-ynysu ers Dydd Nadolig ac roeddwn yn meddwl efallai na fyddwn yn gallu cael fy llawdriniaeth bellach.
"Deallais yn llwyr y pwysau a oedd ar ysgwyddau Ysbyty Maelor ac roeddwn yn gwybod pa mor anodd oedd hi i'r Rheolwr Llawfeddygol orfod fy ffonio i ddweud wrthyf na fyddai'r llawdriniaeth yn mynd yn ei blaen.
"Er nad oeddwn yn gallu ei gael yn fy ysbyty lleol, cefais gynnig i fynd i Ysbyty Gwynedd ac er ei fod yn bell iawn, roeddwn yn gwybod bod yn rhaid i mi gael y llawdriniaeth.
"Roedd fy llawdriniaeth gyntaf ar 20 Ionawr i dynnu'r lwmp, a aeth yn dda a chefais fynd adref ar yr un diwrnod.
"Cefais fy ail lawdriniaeth ar 9 Chwefror, roedd hwn hefyd yn llwyddiant, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y triniaethau yr wyf wedi eu cael.
"Er gwaethaf yr heriau mae'r GIG yn eu hwynebu maent yn gwneud eu gorau i sicrhau bod pobl fel fi'n parhau i gael y driniaeth sydd ei angen arnom, mae'n glod i'r ysbytai eu bod yn gallu gwneud hyn o dan y pwysau y mae'r ddau yn eu hwynebu," ychwanegodd Lindsay.
Dywedodd Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron, Richard Cochrane, ei fod yn teimlo'n freintiedig i allu parhau i ddarparu llawdriniaeth achub bywyd i'w gleifion yn Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd: "Mae'r timau gweithredol yn y ddau ysbyty, yn ogystal â'r staff Anesthetig a Theatr yn Ysbyty Gwynedd wedi fy helpu i gael llawer o gleifion Wrecsam yn ôl i'w hamserlen wreiddiol.
"Os yw fy nghleifion yn ffit ac yn symudol ac yn barod i deithio gallaf roi dyddiad amserol am lawdriniaeth pan fyddaf yn rhoi diagnosis canser.
"Mae ganddynt gynllun ac mae hwnnw'n mynd yn bell tuag at eu caniatáu i ymdopi a'r straen o'u diagnosis a'u triniaeth.
"Mae canser y fron heb ei drin yn ymledu o'r cynradd i'r eilaidd yn y nodau lymff ac yn y pen draw mae'n ymledu i weddill y corff ac yn anwelladwy.
"Hyd nes eich bod wedi tynnu'r canser a'r nodau nid ydych yn gwybod beth sydd ei angen ar brognosis a thriniaethau'r claf.
"Ar ôl i ni gael gwared ar y canser, mae'r driniaeth sy'n weddill yn fwy rhagofalus ac mae llai o ansicrwydd ac angen brys.
"Mae taith pob claf yn wahanol ond mae'r gallu i weithredu mewn modd amserol a diogel yn bwysig i fwyafrif y cleifion felly rydym yn ddiolchgar iawn i Ysbyty Gwynedd am ganiatáu i ni ddefnyddio eu theatrau i gynnal y llawdriniaethau hyn.
Dywedodd Rhian Hulse, Dirprwy Reolwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Gofal wedi’i Gynllunio yn Ysbyty Gwynedd, bod y timau yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam wedi gweithio'n agos i sicrhau eu bod yn gallu parhau i gynnal llawdriniaeth a all achub bywyd ar gyfer cleifion ar draws safleoedd ysbyty.
Dywedodd: "Er gwaethaf heriau sylweddol o ganlyniad i Covid-19, mae timau clinigol a gweithredol wedi canolbwyntio ar ddarparu gofal a thriniaeth â blaenoriaeth i'r rhai sydd ei angen ar frys sy'n cynnwys triniaeth ddewisol frys ar gyfer canser.
"Ein braint yw croesawu cleifion a chydweithwyr o Ysbyty Wrecsam Maelor ac mae ein timau amlddisgyblaethol yn parhau i weithio'n agos gyda'i gilydd gydag ymrwymiad i ddarparu triniaeth hanfodol frys i gleifion ledled Gogledd Cymru cyhyd â'i bod yn ddiogel gwneud hynny."
Mae Lindsay, sydd bellach yn symud i'r cam nesaf yn ei thriniaeth, yn gobeithio y bydd ei stori yn annog eraill i gysylltu â'u Meddyg Teulu os ydynt yn poeni am eu symptomau.
Dywedodd: "Mae'n gyfnod pryderus iawn ond rwy'n gobeithio, drwy rannu fy stori, ei fod yn dangos sut mae blaenoriaethu pobl fel fi.
"Dylai neb anwybyddu unrhyw newid yn eu cyrff neu unrhyw bryder am symptomau oherwydd y pandemig, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu i gael eich archwilio, efallai nad yw'n ddim i boeni yn ei gylch ond mae'n well gwirio.
"Rwyf wedi cael gofal gwych dros y misoedd diwethaf ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r timau yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd am bopeth maent wedi ei wneud."