03/12/21
Mae ymgyrchydd iechyd sydd wedi cael 14 o lawdriniaethau mewn cyfnod o ddeng mlynedd wedi cefnogi cymorth newydd i'r sawl sy'n defnyddio cathetr fel rhan o ymdrech i drechu heintiau y gellid eu hosgoi.
Dywedodd Anna Cooper, sy'n ysbrydoliaeth, y byddai'r pasport arbennig a gynigir gan Betsi Cadwaladr yn gwella cyfathrebu a gofal cathetr i ryw 2,000 o bobl sy'n dibynnu ar y dyfeisiau ledled Gogledd Cymru.
Roedd gan y ferch 28 oed, sy'n hanu o Wrecsam, gathetr sefydlog am bron i ddwy flynedd o ganlyniad i driniaeth yn gysylltiedig ag endometriosis eang.
Mae'r pasbort newydd yn cynnwys gwybodaeth bwysig i'r defnyddiwr, ei anwyliaid, staff gofal iechyd a gofalwyr - gan gynnwys manylion am bwrpas y ddyfais a sut i ofalu amdani.
Nod staff y Bwrdd Iechyd yw lleihau heintiau y gellid eu hosgoi i'r llwybr wrinol sy'n gysylltiedig â chathetr (CAUTIs) trwy helpu i sicrhau bod y dyfeisiau'n cael eu defnyddio'n briodol.
Yn aml, caiff cathetrau eu defnyddio pan fydd pobl yn cael anhawster i basio wrin yn naturiol, neu pan fyddant yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Ond gall y dyfeisiau fod o ffordd i heintiau fynd i mewn i'r corff ac mae angen eu newid yn rheolaidd a'u rheoli'n ofalus. Bydd yr ymagwedd newydd yn sicrhau bod cathetrau'n cael eu defnyddio'n ddiogel a chan y bobl sydd â gwir angen amdanynt.
Dywedodd Anna - sydd hefyd yn defnyddio bag stoma, sy’n llysgennad i Endometriosis UK ac sy’n cynnal ei grŵp cymorth iechyd mislifol ei hun ar Instagram - ei bod wedi elwa ar ofal gwych gan nyrsys ardal lleol yn dilyn llawdriniaeth arbenigol yn Lerpwl.
"Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn ei gweld hi'n anodd bod â chathetr, felly bydd y llyfryn hwn a mwy o wybodaeth o gymorth mawr," meddai.
"Pan ddechreuais ddefnyddio cathetr, doedd gen i ddim syniad - rhoddwyd ychydig o fagiau i mi, ond doeddwn i ddim wir yn gwybod sut i'w defnyddio. Doeddwn i ddim yn gwybod sut i'w ddefnyddio ac roedd hynny fwy na thebyg yn arwain at heintiau, yn ddiarwybod i mi.
"Mae stigma enfawr am y peth. Mae pobl yn aml yn meddwl bod cathetrau i bobl hŷn yn unig ac nid felly yw hi. A hyd yn oed pan gânt eu defnyddio gan bobl hŷn, dylent allu eu defnyddio'n ddiogel ac yn gyfforddus yr un fath.
"Rwy'n cofio mynd adref a meddwl nad oeddwn i'n gwybod sut i ofalu am y peth newydd yma. Mae mor bwysig pan gaiff pobl eu rhyddhau gyda chathetr, eu bod yn cael eu rhyddhau gyda'r wybodaeth orau am sut i ofalu amdano a nhw eu hunain."
Bydd staff ysbyty hefyd yn ystyried tynnu cathetrau bob ychydig oriau pan na fydd cleifion mewnol yn bodloni'r meini prawf i ddefnyddio un mwyach. A, lle bo'n bosibl, bydd defnyddwyr yn y gymuned yn cael eu hannog i roi'r gorau i ddefnyddio eu cathetrau am gyfnod prawf i weld p'un a oes modd iddynt ymdopi hebddynt.
Dywedodd Kristy Ross, Dirprwy Bennaeth Nyrsio Cymunedol Ardal y Dwyrain yn Betsi Cadwaladr, y dylid defnyddio cathetrau dim ond pan fo gwir angen i wneud hynny.
"Nod ein prosiect CAUTI yw sicrhau mai dim ond pobl sydd â gwir angen am gathetr sefydlog sy'n ei dderbyn, er mwyn sicrhau bod rheswm i bob cathetr fod yn ei le, ac i ddarparu gwybodaeth well am sut i ofalu amdanynt," meddai.
"Rydym yn awyddus i leihau achosion o heintiau sy'n gysylltiedig â chathetr sy'n gallu gwneud pobl yn sâl iawn, a lleihau'r defnydd o gyffuriau gwrthfiotig sydd eu hangen i drin yr heintiau hyn y gellid eu hosgoi"
Mae'r rhaglen yn rhan o raglen Gofal Glân Diogel - Heb Niwed y Bwrdd Iechyd, sy'n canolbwyntio ar leihau achosion o salwch sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.
Mae Dr Jennifer Ellis, Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau, yn eiriolwr selog dros bobl sy'n defnyddio cathetr. Un o'r rhesymau mwyaf dros alwadau i wasanaethau y tu allan i oriau yw problemau gyda'r dyfeisiau neu broblemau sydd wedi'u hachosi ganddynt.
"Mae cathetrau wedi bod yn dipyn o dabŵ ac nid yw pobl yn siarad amdanynt ryw lawer, ond ni ddylai fod felly," meddai. "Pan gânt eu defnyddio a'u trin yn briodol, mae cathetrau'n grymuso pobl i gymryd rheolaeth o'u bywydau ac i gadw eu hurddas.
"Ond pan na chânt eu defnyddio'n briodol, neu pan na fydd pobl yn gofalu amdanynt yn briodol, gall problemau gyda chathetr arwain at heintiau sy'n gallu bod yn beryglus ac o bosibl, yn angheuol yn y pen draw.
"Bydd tynnu cathetrau lle bo modd gwneud hynny - a darparu gwybodaeth well i'r sawl sy'n defnyddio cathetrau a'r bobl sy'n gofalu amdanynt - yn helpu i atal salwch ac anghysur, a sicrhau bod modd i'n cleifion fwynhau'r ansawdd bywyd gorau posibl."
Caiff y pasbortau eu lansio yn ysbytai llym Betsi Cadwaladr a chânt eu cyflwyno i'r holl bobl sy'n defnyddio cathetr ar draws y rhanbarth dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod.