Mae dros 400 o weithwyr allweddol yng Ngwynedd a Môn bellach yn cael eu profi’n wythnosol, diolch i waith partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chymdeithas dai flaengar.
Mewn ymateb i’r achosion o COVID-19, mae swyddfeydd sy’n eiddo i ddarparwr cartrefi cymdeithasol mwyaf gogledd Cymru, Adra, ym Mharc Menai, Bangor, wedi’u trawsnewid yn ganolfan brofi.
Meddai Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr “Daeth Adra atom yn gynnar yn ystod y pandemig i gynnig eu cyfleusterau i ni eu defnyddio fel canolfan brofi i weithwyr allweddol.
“Mae lleoliad swyddfa Tŷ Coch, Adra ym Mharc Menai yn ddelfrydol o ran gosodiad ac agosrwydd i’r rhwydwaith ffyrdd ac Ysbyty Gwynedd, er mwyn i weithwyr allweddol gael apwyntiadau am brawf.
“Yn ystod amser mae’n rhaid i ni weithio’n wahanol iawn, roedd gwybod bod partneriaid lleol fel Adra yn gallu trefnu eu staff i weithio’n gyflym gyda ni i sefydlu Tŷ Coch yn effeithiol a diogel yn galondid.
“Mae hyn nawr yn golygu bod gweithwyr allweddol, gan gynnwys staff awdurdodau lleol, gweithwyr y GIG ac eraill a nodwyd o fewn y grŵp blaenoriaeth ar gyfer profion, nawr yn gallu cael apwyntiad i’w profi yn lleol.
“Rydym wedi sefydlu rhwydwaith o unedau profi ar draws gogledd Cymru, ac mae safle Parc Menai yn ddelfrydol o ran hygyrchedd.”
Meddai Iwan Trefor Jones, Dirprwy Brif Weithredwr Adra: “Wedi i ni fuddsoddi mewn technoleg newydd yn ddiweddar i gefnogi gweithio o bell o fewn y cwmni. Mae’r trawsnewid i alluogi staff i weithio o gartref wedi gweithio’n dda i ni.
“Golyga hyn bod un o’n adeiladau swyddfeydd mwyaf, Tŷ Coch, Parc Menai wedi dod yn wag cyn gynted bod y cyfyngiadau symud wedi’u cyhoeddi. Rydym wedi gweithio’n galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddatblygu perthynas waith dda i gefnogi’r GIG, gan gynnwys rhai prosiectau cyffrous mewn technoleg arloesol a lletyau i weithwyr allweddol. Mae hyn yn dangos yr hyn all pawb ei gyflawni ac ychwanegu gwerth wrth gydweithio fel parteriaid i gyflawni cefnogaeth hanfodol i frwydro yn erbyn y pandemig gyda’n gilydd.”
Nodiadau i Olygyddion:
Mae Adra yn ddarparwr cartrefi yng ngogledd Cymru, sy’n darparu dros 6,300 o gartrefi a gwasanaethau i dros 14,000 o gwsmeriaid ac yn gweithio er budd cymunedau lleol, drwy eu diogelu, hyrwyddo a’u cynorthwyo i ddatblygu.