18 Mai 2023
Bydd nyrsys Uned Gofal Dwys o Ysbyty Gwynedd yn mynd i’r afael â her 26 milltir i godi arian tuag at elusennau canser y fron.
Bydd y saith nyrs, Felicity Powell, Nikki Whiteman, Nicky Kelly, Tracey Jones, Karen Hughes, Susi Scudamore a Louise Lloyd yn cymryd rhan yn nigwyddiad Walk the Walk ar 20 Mai, sy’n un o’r elusennau canser y fron ag arian grant mwyaf yn y DU.
Penderfynodd y grŵp ymgymryd â’r her hon ddiwedd y llynedd, ond ar ôl clywed am ddiagnosis canser y fron Lona Massarelli-Hughes, eu cydweithiwr, a’u syfrdanodd, roedden nhw’n fwy penderfynol nag erioed i gofrestru.
Ar hyn o bryd mae Lona, sydd wedi gweithio yn Ward Cybi (Uned Gofal Dwys) am bron i 20 mlynedd yn derbyn triniaeth, ac mae hi’n gefnogol iawn i’w chydweithiwr am fynd i’r afael â’r daith hon.
Dywedodd: “Rydw i’n falch iawn o fy nghydweithwyr a’m ffrindiau a fydd yn mynd i’r afael â’r daith Cerdded dan y Lloer y penwythnos hwn ar gyfer elusennau canser y fron.
“Cefais ddiagnosis o ganser y fron ddiwedd y llynedd, ac rwyf wedi derbyn gofal anhygoel gan Ysbyty Gwynedd. Hoffwn ddiolch i fy Meddyg Teulu a’r staff ym Meddygfa Corwen House, Penygroes, yr adran Radioleg, Fflebotomi ac Uned Dydd Alaw a phawb arall sydd wedi fy ngweld yn yr ysbyty hyd yma. Mae pawb wedi bod yn rhagorol a hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw.
“Mae’n wych bod fy nghydweithwyr yn cymryd rhan yn y daith hon, nid yn unig i godi arian hanfodol i’r elusennau ond er mwyn codi ymwybyddiaeth hefyd.”
Mae ‘Prif Nyrsys Cybi’ wedi bod yn hyfforddi yn ystod y misoedd diwethaf i baratoi ar gyfer y daith hir sydd o’u blaenau, sy’n golygu cerdded 26 milltir trwy Lundain yn ystod y nos.
Dywedodd Susi, un o’r Prif Nyrsys: “Wnaethon ni gyd gofrestru i ymgymryd â’r daith hon gan ein bod eisiau gwneud gwahaniaeth, ac rydym yn cael ein hysbrydoli’n fawr gan y gwaith sy’n dod i’r amlwg o ganlyniad i’r digwyddiad hwn a’r ymwybyddiaeth sy’n cael ei chodi.
“Rydym wedi derbyn cyfraniadau hael dros ben eisoes, ond hoffem annog cymaint o bobl ag y gallwn i'n helpu i godi cymaint o arian â phosibl ar gyfer yr elusennau anhygoel hyn.
“Mae cymaint o bobl yn cael eu heffeithio gan ganser, ac mae cymaint o bobl yn dod ar ei draws un ffordd neu’r llall. Rydym yn gwneud hyn i’r holl bobl hynny, a hefyd i Lona, ein cydweithiwr arbennig.”
I gael gwybod rhagor am y daith Cerdded dan yn Lloer, Llundain 2023, ac i noddi Prif Nyrsys Cybi, cliciwch yma