Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Ffilipinaidd yn dathlu 20 mlynedd o ofalu am gleifion yng Ngogledd Cymru

10/03/2021

Mae nyrsys a symudodd o Ynysoedd y Pilipinas i helpu i ofalu am gleifion yng Ngogledd Cymru yn dathlu ugain mlynedd o ofal ym mis Mawrth. 

Yn 2001 oherwydd prinder nyrsys yn y DU fe wnaeth y GIG recriwtio nyrsys o Ynysoedd y Pilipinas, ac maent wedi dod yn aelodau allweddol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). 

Arniel Hernando oedd un o’r nyrsys cyntaf a ddaeth i Ogledd Cymru, dechreuodd yn Ysbyty Gwynedd fel nyrs ac mae’n awr yn Uwch Nyrs Ymarferydd ac Arweinydd Llawfeddygol yn yr ysbyty. 

Dywedodd Arniel, sy’n 50 oed: “Dywedodd fy ffrind wrthyf fod Cymru’n recriwtio nyrsys o Ynysoedd y Pilipinas, ac roedd hi'n ei argymell yn fawr, felly roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yn llwyddiannus a chefais fy lleoli yn Ysbyty Gwynedd. 

“Ni wnes erioed feddwl pan gyrhaeddais gyntaf y byddwn yn ddigon ffodus i weithio fel uwch reolwr, ond mae fy rheolwyr bob amser wedi gweld potensial ynof ac wedi fy annog i barhau â fy addysg, a chymryd pob cyfle i ddatblygu fy ngyrfa. 

“Ychydig flynyddoedd yn ôl symudais i ysbyty yn Llundain i gael math gwahanol o brofiad, ond dychwelais o fewn y flwyddyn gan fy mod yn colli’r ardal, y mynyddoedd a fy mywyd yma. Dyma fy ail gartref nawr. Mae fy mhlant hefyd yn nyrsys cymwysedig, mae'n yrfa mor werth chweil i’w dilyn gyda chyfleoedd gwych.” 

Mae Arniel hefyd wedi cefnogi ymgyrch recriwtio ‘GIG Cymru am y tair blynedd diwethaf, ac ar hyn o bryd mae’n stiward achrededig Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN). Y llynedd, penodwyd Arniel hefyd yn Bennaeth Cynorthwyol Nyrsio ar gyfer Llawfeddygaeth i gefnogi agoriad Uned Gofal Brys Llawfeddygol yr Un Diwrnod (SDEC) newydd yn Ysbyty Gwynedd sy'n sicrhau bod cleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt yn y lle iawn ar yr amser iawn. 

Roedd Rosella Castaneda yn 25 oed pan ddechreuodd yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac mae hi bellach yn Nyrs Gofal Critigol yn yr ysbyty. 

Dywedodd Rosella: “Cyrhaeddais Heathrow a theithiais i Wrecsam ar fws, ac arhosais mewn llety yng nghanol y dref gyda rhai nyrsys o dramor eraill. Fe ddaethom ni yma i chwilio am brofiadau gwell yng Ngogledd Cymru, ac i mi i ddechrau roedd yn gam mawr, ond rwyf wedi bod mor fodlon yma dw i erioed wedi gadael. Rwy’n hoff o gefn gwlad o'i gymharu â'r dinasoedd a nawr rwyf wedi magu fy nheulu fy hun yma. 

“Rwyf wir yn mwynhau gweithio yn yr Uned Gofal Critigol, mae’r tîm wedi dod yn ail deulu i mi yma. Mae gweithio yn ystod y pandemig yn cynnwys nifer o heriau yn enwedig yn ein huned, ond rydym yn dîm agos ac rydym yma i’n gilydd. 

  

“Rydym ni’n weithwyr proffesiynol a bob amser yn ceisio gofalu am ein gilydd. Mae'n anodd ar brydiau, yn enwedig i'n cleifion COVID-19 gan fod y mwyafrif ohonyn nhw'n sâl iawn pan maen nhw'n cael eu derbyn i'n huned. " 

Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth a Dirprwy Brif Weithredwr BIPBC: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’n nyrsys Ffilipinaidd am y gofal a’r gefnogaeth ragorol y maent wedi’u darparu i’n cleifion dros y ddau ddegawd diwethaf. 

“Hoffwn ddiolch i’n holl staff o Ynysoedd y Pilipinas, i’r rhai a ddaeth 20 mlynedd yn ôl a’r rhai sydd wedi ymuno â ni ers hynny, am eu hymroddiad i’r GIG, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf gan eu bod wedi chwarae rhan allweddol trwy gydol y pandemig. Mae'n anrhydedd i ni eu bod wedi dewis ymgartrefu yng Ngogledd Cymru."