Mae dwy nyrs endometriosis arbenigol wedi'u penodi i wella gwasanaethau ar draws Gogledd Cymru ar gyfer y cyflwr cronig, sy'n effeithio ar un ym mhob deg o ferched.
Mae endometriosis yn gyflwr lle mae meinwe tebyg i leinin y groth yn dechrau tyfu mewn mannau eraill, fel yr ofarïau a thiwbiau ffalopaidd. Mae'n gyflwr hirdymor a all gael effaith sylweddol ar fywyd merch, ond mae triniaethau ar gael a all helpu.
Mae Clair Masters a Becky Jones bellach wedi ymgymryd â’u rolau a byddant yn treulio amser gyda chleifion a chlinigwyr i wella gwasanaethau a chydweithio i rannu arfer gorau.
Mae Clair, sydd wedi gweithio ar Ward Gynaecolegol Ysbyty Glan Clwyd am y tair blynedd diwethaf, bellach yn edrych ymlaen at lunio'r gwasanaeth yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd: "Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn Endometriosis ac rydw i wedi bod yn ymwneud ag ymchwil yn ymwneud â’r cyflwr. Mae'r cyfle hwn yn ddilyniant naturiol i mi ac rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o ddatblygu'r gwasanaeth hwn.
"Bydd ein rolau yn caniatáu i ni helpu merched yn emosiynol a hefyd darparu cefnogaeth gyda’r materion seicolegol a ddaw yn sgil y cyflwr.
“Rydw i eisiau bod yn eiriolwr dros ferched sydd â’r cyflwr hwn a bod yn rhan o’u system gymorth.”
Mae Becky, sydd wedi treulio 20 mlynedd yn gweithio ar Ward Bromfield yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn gobeithio codi mwy o ymwybyddiaeth am y cyflwr yn ei rôl newydd.
"Rydw i wedi treulio tua 20 mlynedd yn gofalu am ferched ar ward Gynae yn y Maelor ac roeddwn am aros mewn rôl sy’n delio’n uniongyrchol â chleifion a bydd y cyfle hwn hefyd yn rhoi cyfle i mi wneud gwahaniaeth.
“Rydw i’n teimlo’n angerddol iawn am wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr hwn, mae angen ei amlygu llawer mwy ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’n timau gofal sylfaenol i ddarparu mwy o addysg ar Endometriosis.
“Rydw i a Clair yn angerddol iawn am wneud gwahaniaeth a gwneud pethau’n well i’n cleifion yng Ngogledd Cymru.”
Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru bellach wedi penodi nyrsys endometriosis arbenigol sy’n cael eu hariannu gan fuddsoddiad o £1m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gynlluniau ehangach i wella gwasanaethau iechyd merched.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Mae endometriosis yn effeithio ar un ym mhob deg o ferched. Gall achosi poen difrifol a gall effeithio'n ddifrifol ar ansawdd bywyd merched y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt.
“Mae ein Grŵp Gweithredu Iechyd Merched yn datblygu gwaith hanfodol i gefnogi iechyd merched a bydd penodi nyrs endometriosis bwrpasol ym mhob bwrdd iechyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth, diagnosis a thriniaeth o’r cyflwr difrifol hwn ledled Cymru.”