Mae nyrs yn Ysbyty Gwynedd sydd wedi'i disgrifio fel 'esiampl wych i bawb' wedi derbyn gwobr arbennig.
Cafodd Prif Nyrs Rachael Hughes, sy'n Rheolwr Ward Dros Dro ar Ward Ogwen, ei henwebu am wobr Seren Betsi gan ei chydweithiwr am fynd y filltir ychwanegol.
Mae Rachael, a ddechreuodd yn ei rôl fel Rheolwr Ward ar y Ward Orthopaedig a Thrawma ym mis Ionawr 2019, wedi cael ei chanmol gan ei chydweithwyr am ei hymrwymiad i'w rôl ac am ei phositifrwydd sydd wedi helpu i wella morâl y staff.
Dywedodd y Nyrs Sophie Burgess, a enwebodd Rachael am y wobr: “Mae Rachael wedi bod yn arloesol ac mae hi wedi mynd y filltir ychwanegol i wneud gwelliannau a newidiadau ar Ward Ogwen sydd wedi dod â manteision gwirioneddol i gleifion a staff.
“Mae hi wastad wedi dangos angerdd o ran yr hyn y mae'n ei wneud ac wedi annog yr holl staff i barhau â'u datblygiad.
“Gwnaeth Rachael fy annog i wneud cais am secondiad fel Dirprwy Reolwr Ward, yn ogystal ag annog nifer o Ymarferwyr Cynorthwyol i fanteisio ar hyfforddiant pellach.
“Mae hi'n arweinydd eithriadol ac ysbrydoledig yn ogystal ag aelod brwdfrydig o dîm - mae hi'n esiampl wych i ni gyd."
Mae Gwobr Seren Betsi yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr GIG Gogledd Cymru.
Dywedodd Rachael: “Roedd yn syndod mawr i mi dderbyn Gwobr Seren Betsi. Rydw i'n gweithio gyda thîm gwych o staff ar Ward Ogwen ac rydw i'n hynod falch ohonynt ac rydw i'n mwynhau bod yn rhan o'r tîm yn fawr iawn."
Cafodd y wobr ei chyflwyno i Rachael gan Gyfarwyddwr Gweithredol Gweithlu a Datblygu Sefydliadol y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd: "Roeddwn i'n falch iawn o gyflwyno Gwobr Seren Betsi i Rachael. Mae Rachael yn mynd y filltir ychwanegol yn ei rôl ac mae'n amlwg bod gan ei chydweithwyr feddwl mawr ohoni. Llongyfarchiadau Rachael, rydych chi wir yn haeddu'r wobr hon .”