Mae nyrs Gofal Critigol o Ysbyty Maelor Wrecsam a ddisgrifiwyd gan ei chydweithwyr fel 'ysbrydoliaeth' wedi derbyn gwobr arbennig.
Cafodd yr Uwch Brif Nyrs Jayne ei hwynebu am wobr Seren Betsi gan ei chydweithwyr, Prif Nyrs Natasha Corcoran a Phrif Nyrs Joanne Richards.
Dros y 18 mis diwethaf, mae Jayne wedi bod yn codi arian er mwyn creu gardd allanol newydd ar gyfer ei chleifion Gofal Critigol a'u teuluoedd, a hyd yma, mae hi wedi codi bron i £15,000.
Byddai'r ardd yn rhoi'r cyfle i gleifion brofi gadael yr Uned Gofal Critigol am gyfnod byr ac yn darparu man tawel a phreifat iddynt hwy a'u teuluoedd.
Dywedodd Joanne: “Mae Jayne wedi gweithio mor galed yn trefnu ac yn hybu mentrau amrywiol, gan gynnwys digwyddiad elusennol gwthio gwlâu, rafflau a gweithgareddau eraill, a thrwy wneud hynny, mae wedi llwyddo i godi swm mawr o arian tuag at yr ardd.
“Mae hi'n parhau i godi arian er mwyn cyrraedd targed o £25,000 ac mae hi'n cael syniadau newydd yn gyson am ffyrdd o godi mwy o arian - mae Jayne wedi gwneud hyn oll yn ei hamser ei hun.
“Nid yn unig y mae hyn yn rhywbeth a fyddai'n hynod werthfawr i'n cleifion a'u teuluoedd, ond credwn ei fod hefyd wedi cyfrannu at annog gwaith tîm a gwella morâl staff ymysg y tîm Gofal Critigol, trwy bawb yn dod at ei gilydd yn eu hamser eu hunain at achos mor deilwng.
“Mae Jayne wedi mynd y filltir ychwanegol i'r Uned Gofal Critigol, ac nid yn unig mae hi wedi rhoi hwb i’r tîm cyfan ond mae'n parhau i ysbrydoli pob un ohonom ni gyda'i gwaith caled a'i hymroddiad i achos mor deilwng."
Cyflwynwyd y wobr i Jayne gan Gyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Chymunedol y Bwrdd Iechyd, Chris Stockport.
Dywedodd: "Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno gwobr Seren Betsi i Jayne.
“Mae Jayne wedi mynd y filltir ychwanegol yn ei rôl ac mae hi wedi codi swm enfawr o arian tuag at greu ardal allanol a fydd yn fuddiol i'w chleifion a'u teuluoedd.
"Llongyfarchiadau Jayne, rydych chi wir yn haeddu'r wobr hon.”
Mae Gwobr Seren Betsi yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr GIG Gogledd Cymru.
Dywedodd Jayne: “Sioc o'r mwyaf oedd cael fy enwebu am y wobr hon ac rydw i'n teimlo'n falch ac yn freintiedig iawn i'w derbyn.
“Mae'r staff ar y ward wedi bod yn anhygoel ac yn gefnogol iawn o ran codi arian tuag at ein gardd ac rydym yn gobeithio parhau â'n hymdrechion codi arian ac i godi swm o £25,000 sydd ei angen arnom eleni."