18 Tachwedd, 2022
Mae nyrs a aeth gam ymhellach er lles ei chleifion yn ystod pandemig COVID-19 wedi ennill gwobr arbennig.
Mared Jones-Owen oedd enillydd Gwobr y Filltir Ychwanegol yn seremoni Gwobrau Cyflawniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni.
Yn ystod pandemig COVID-19, roedd llawer o gleifion yn amharod i fynd i'r clinig IV yn Ysbyty Alltwen, felly i leihau nifer yr ymwelwyr a'r risgiau, fe wnaeth Mared wasanaethu llawer o gleifion yn eu cartrefi eu hunain.
Yn benodol, pwysleisiwyd ymroddiad rhagorol Mared i gyflawni ei gwaith yn y modd mwyaf sensitif a phroffesiynol ar adeg pan oedd hi'n gofalu am dad sengl a'i fab, â'r tad yn derbyn gofal lliniarol yn ei gartref yn ystod y pandemig.
Enwebwyd Mared am y wobr gan Louise Davies, sy'n gweithio yn nhîm Datblygu Ymarfer a Gwella Ansawdd yng Ngorllewin rhanbarth y Bwrdd Iechyd, a dywedodd: “Roedd y claf penodol hwn yn dymuno cael ei drallwysiadau gwaed gartref gyda'i fab, a pharhaodd Mared i'w cynorthwyo cymaint ag y gallai, gan ymweld â'i gartref sawl gwaith bob wythnos.
“Yn anffodus, wedi ychydig fisoedd, dirywiodd ei iechyd a gofynnodd i Mared a fuasai'n egluro'r rhagolygon i'w fab. Yn ogystal ag esbonio'r sefyllfa iddo, fe wnaeth Mared ei gynorthwyo hefyd i greu blwch atgofion i gofio am ei dad, a chynorthwyodd y tad a'r mab ar adeg drist a thrawmatig iawn yng nghanol cyfnod y pandemig.”
Hunodd y gŵr bonheddig yn dawel ym mis Rhagfyr ac roedd y teulu cyfan yn ddiolchgar dros ben am y cymorth a gawsant gan Mared ac am ei charedigrwydd. Yn sgil ei gwaith yn rhoi'r trwythau wythnosol i'r claf, cafodd ei deulu a'i fab flwyddyn ychwanegol yn ei gwmni.
“Bydd Mared yn mynd gam ymhellach bob amser, er lles ei chleifion ac er lles unrhyw un y bydd hi'n cwrdd â hwy. Yn y sefyllfa benodol hon, llwyddodd i sicrhau fod cyfnod trawmatig a thrist iawn yn rhywbeth mor fuddiol ag y bo modd, ac mae hi'n wirioneddol ysbrydolgar.”
Ni allai Mared ddod i'r seremoni wobrwyo, ac fe wnaeth Janw Hughes-Evans, Cyfarwyddwr Nyrsio Cymunedol Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin, gyflwyno ei gwobr iddi yn Ysbyty Alltwen.
Dywedodd Janw: “Mae Mared yn unigolyn sy'n defnyddio pob agwedd ar ei gwybodaeth, ei sgiliau a'i chymeriad i ddarparu gofal sy'n mynd tu hwnt i ofynion ei rôl.
"Llongyfarchiadau Mared, mae'n wobr wirioneddol haeddiannol.”