29/04/2021
Penodwyd nyrs o Ysbyty Maelor Wrecsam fel y nyrs arbenigol gyntaf yng Nghymru ar gyfer yr elusen Crohns and Colitis UK (CCUK).
Mae Diane Upton yn arbenigo mewn clefyd llidiol y coluddyn ac mae wedi cael rôl Nyrs Arbenigol IBD ar gyfer CCUK, elusen flaenllaw yn y DU yn y frwydr yn erbyn Clefyd Crohns a Cholitis Briwiol, a elwir gyda'i gilydd yn Glefyd Llidiol y Coluddyn neu IBD.
Nod CCUK yw cefnogi'r rhai sy'n byw gydag IBD gyda mynediad at nyrsys arbenigol IBD cymwys, ac mae wedi lansio rhaglen newydd i adeiladu cymuned o arbenigwyr nyrsio a dod â thimau IBD ynghyd.
Mae'r rhaglen hefyd wedi helpu Diane i ddod yn Uwch Ymarferydd Nyrsio ar gyfer y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN), trwy'r broses gredydu RCN, a fydd yn helpu Diane i gael cydnabyddiaeth ffurfiol am ei lefel o arbenigedd a sgil mewn ymarfer clinigol, sgiliau arweinyddiaeth, addysg ac ymchwil, a bydd yn parhau i gefnogi ei datblygiad yn y proffesiwn.
Dywedodd Diane: “Penderfynais wneud cais am y rôl gyda CCUK gan ei bod yn elusen wych sy'n helpu i hysbysu cleifion, teulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yr effeithir arnynt, ond sy'n cynnig llawer iawn o gyngor a chefnogaeth i nyrsys IBD. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn llysgennad i CCUK, a bod yn rhan o gymuned o nyrsys IBD, gan rannu arfer nyrsio gorau a gobeithio gwneud newid cadarnhaol i fywydau cleifion.”
Mae Diane wedi gweithio fel Nyrs Arbenigol IBD a Nyrs Endosgopi yn Ysbyty Maelor Wrecsam am y chwe blynedd diwethaf, a bydd yn parhau ochr yn ochr â’i swydd elusennol newydd.
Penododd CCUK 15 o nyrsys IBD newydd ledled y DU, gan benodi dim ond Diane yng Nghymru. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi mynediad i nyrsys at yr holl sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau sydd gan yr elusen, gan gynnwys uwch arweinyddiaeth nyrsio, gwasanaethau gwybodaeth a chymorth, sgiliau cyfathrebu a TG, datblygu ymchwil a llawer mwy.
Ychwanegodd Diane: “Mae CCUK a’r nyrsys IBD wedi bod yn rhwydwaith hynod ddefnyddiol yn enwedig yn ystod y pandemig, gan ein bod wedi cefnogi ein gilydd yn ystod cyfnod anodd a heriol dros ben, gan ein galluogi i rannu canllawiau diweddaraf ar gyngor a chefnogaeth i gleifion ag IBD, gan ddarparu gwybodaeth am Coronafirws i gleifion, er mwyn diogelu ei hunain ac eraill.
“Bydd y cyfle hwn yn helpu i gefnogi fy natblygiad ac addysg, ac mi fydd o fudd i fy rôl a’r tîm yn Ysbyty Maelor Wrecsam hefyd.”