Mae nyrs uchel ei pharch o Ysbyty Gwynedd a oedd yr unigolyn cyntaf yn y DU i gael ei phenodi i rôl nyrsio arbenigol ym maes llawfeddygaeth fasgwlaidd wedi ymddeol y mis yma ar ôl dros 40 mlynedd yn y GIG.
Dechreuodd Fiona Evans ei gyrfa fel myfyrwraig nyrsio ym mis Ionawr 1978 yn Ysgol Nyrsio Dewi Sant a chymhwysodd fel nyrs staff ar Ward Penrhyn yn hen Ysbyty Môn ac Arfon ym Mangor.
Dechreuodd mewn swydd i Brif Nyrs ym 1986 ar y wardiau meddygol yn Ysbyty Gwynedd, cyn dod yn Brif Nyrs Nos y Ward Feddygol ym 1987.
Rhwng 1989 a 1991, bu'n Fiona yn gweithio fel Prif Nyrs ar yr Uned Endosgopi ac ymgyrchodd yn llwyddiannus i osod system awyru newydd er mwyn cael gwared ar y mygdarth gwenwynig sy'n cael ei greu gan y diheintydd sy'n cael ei ddefnyddio i lanhau'r sgopau.
Ym 1991, cafodd ei phenodi yn Arbenigwr Nyrsio Clinigol Fasgwlaidd, y nyrs gyntaf yn y DU i dderbyn y rôl newydd hon yn y GIG, lle bu'n gweithio ochr yn ochr â Mr Will Humphreys, Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol, a chyflawnodd rôl hollbwysig o ran sefydlu gwasanaeth fasgwlaidd i gleifion yng Ngogledd-orllewin Cymru.
Dywedodd Sandra Robinson Clarke, Metron Llawfeddygaeth a Gofal Critigol: "Roedd Fiona yr un mor adnabyddus ym 1978 pan ddechreuodd nyrsio ag ydyw erbyn hyn am ei hymroddiad i'w rôl a'i synnwyr digrifwch.
"Mae hi wedi bod yn ymroddedig i'w gwaith ac yn angerddol ac mae hi bob amser wedi ymdrechu i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaen ar gyfer ei chleifion.
"Mae hi wedi rhoi cymorth ac arbenigedd i'w chydweithwyr nyrsio yn ogystal ag i'r Timau Amlddisgyblaethol ar draws Gogledd Cymru.
"Bydd chwaith mawr ar ei hôl hi gan bob un ohonom, heb sôn am y cleifion sy'n meddwl gymaint ohoni.
"Yn wir, mae hi wedi cael gyrfa i fod yn falch ohoni, diolch yn fawr iawn Fiona am bopeth rwyt wedi'i wneud a mwynha dy ymddeoliad."
Ychwanegodd Sonya Jones, Nyrs Arbenigol mewn Poen Lem, sy'n gweithio gyda Fiona ers dros 30 mlynedd: "Er bod ganddi gyfoeth o wybodaeth, roedd Fiona bob amser yn fodlon gwrando ac i ddysgu gan eraill a rhannu gwybodaeth.
"Roedd hynny'n caniatáu i ni gydweithio er lles pennaf y cleifion. Gwnaeth yr ymdrech ar y cyd hon arwain at foddhad yn y gwaith, ac mae hynny mor werth chweil."