Mae nyrs ‘ysbrydoledig’ wedi’i chydnabod am ei harweinyddiaeth dosturiol a chynhwysol o wasanaeth GIG sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu.
Enwyd Jane Williams, Rheolwr y Gwasanaeth Cymorth Therapiwtig yn Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, yn enillydd y Wobr Arweinyddiaeth yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gynhaliwyd yn Venue Cymru ddydd Gwener, Hydref 21ain.
Enwebwyd y nyrs anabledd dysgu brofiadol, sydd hefyd yn ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, gan gydweithwyr, a’i canmolodd am roi anghenion defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud.
“Mae Jane yn arweinydd caredig, profiadol a chynhwysol sy’n deall bod angen i chi arwain o ganol y tîm fel eich bod chi’n mynd â phawb gyda chi,” esboniodd Aruubh Sarwar, Myfyriwr Nyrsio Anableddau Dysgu.
“Mae hi’n defnyddio pob eiliad o’r dydd i gefnogi, annog, grymuso a gofalu am ei staff a defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r tîm yn mynd yr ail filltir iddi oherwydd ei harweinyddiaeth ysbrydoledig. Mae hi'n hael gyda'i hamser a hi yw'r cyntaf i gyrraedd y gwaith a'r olaf i adael.
“Mae Jane wedi helpu cymaint o staff sydd wedi bod yn weithwyr cymorth gofal iechyd i gymryd y cam i mewn i’w hyfforddiant nyrsio, trwy gredu ynddynt a dangos bod modd gwireddu eu huchelgeisiau trwy waith caled.”
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Jane: “Mae’n anrhydedd ennill y wobr hon ac mae’n fraint. Yn y Mabinogion mae’n dweud ‘A fo ben bid bont’ a fy ngobaith mwyaf yw fy mod yn bont ar gyfer syniadau fy nhîm.”
Dywedodd Luke Tornhill, a gyflwynodd y wobr i Jane ar ran y noddwr Medacs Healthcare: “Mae’r effaith y mae arweinyddiaeth dosturiol, o safon yn ei chael ar les staff a chleifion yn amlwg i’w weld, a byddai’r tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y categori hwn wedi bod yn enillwyr teilwng y wobr hon.
“Rwy’n falch iawn o longyfarch Jane ar ei llwyddiant heno ac ar y gwahaniaeth y mae wedi’i wneud i’w chydweithwyr yn ei thîm.”
Dywedodd Jeremy Nash, Prif Swyddog Gweithredol Centerprise International, prif noddwr y gwobrau: “Roeddwn yn falch iawn o glywed y straeon eithriadol o garedigrwydd, gofal, tosturi a dewrder yn wyneb adfyd a ddangoswyd gan y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol gwobrau BIPBC.
“Dyma’r bedwaredd flwyddyn i Centerprise International noddi’r gwobrau hyn, a blwyddyn ar ôl blwyddyn rydym yn parhau i ryfeddu at yr ymdrechion y mae staff y GIG yng Ngogledd Cymru yn eu gwneud i gefnogi cleifion yr ardal a’u cydweithwyr.
“Llongyfarchiadau nid yn unig i enillwyr heno, ond i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer gwobrau eleni.”