5 Mai 2023
Y Diwrnod Rhyngwladol Bydwragedd hwn (5 Mai 2023) rydym yn dathlu’r bydwragedd ymchwil gweithgar ledled Cymru sy’n gwneud beichiogrwydd a genedigaeth yn fwy diogel.
Bydwragedd ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y cyntaf yng Nghymru i ddod yn rhan o astudiaeth ledled y DU sy'n ceisio atal babanod newydd-anedig rhag dal haint a allai beryglu bywyd.
Gan nad yw un o bob pedair menyw yn ymwybodol eu bod yn cario'r bacteria, gall streptococws grŵp B (GBS) gael ei drosglwyddo o'r fam i'r plentyn yn ystod genedigaeth. O ganlyniad, mae rhai babanod yn datblygu sepsis GBS cynnar a all achosi anableddau gydol oes neu hyd yn oed farwolaeth.
Nod astudiaeth GBS3, a arweinir gan Brifysgol Nottingham ac a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, yw darganfod a all profion arferol ar gyfer menywod beichiog leihau'r risg i fabanod newydd-anedig.
Fel rhan o’r treial, a fydd hefyd yn agor yn fuan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae bydwragedd yn gweithio i gymharu’r ffyrdd presennol o brofi ag effeithiolrwydd profi mamau beichiog cyn y dyddiad geni a phrofi ar ddechrau'r cyfnod esgor.
Dywedodd Sarah Davies, Bydwraig Ymchwil sy’n gweithio ar GBS3 yng Ngogledd Cymru: “Yn y DU, mae strep grŵp B i’w gael fel arfer os yw menyw yn cael ei phrofi am rywbeth arall, fel yr ân er enghraifft, neu os yw’n dangos symptomau. Os byddant yn profi'n bositif, rhoddir gwrthfiotigau i'r fam yn ystod y cyfnod esgor, gan leihau'n sylweddol y risg o'i drosglwyddo. Gan nad oes gan GBS symptomau bob amser nid yw'r rhan fwyaf o fenywod yn cael eu profi.
“Dyna pam mae’r astudiaeth hon mor bwysig. Trwy gynnal profion yn fwy rheolaidd gallem roi triniaeth yn fwy priodol a lleihau nifer y babanod sy'n dal GBS. Nid ydym yn gwybod beth fydd canlyniad yr astudiaeth eto ond, yn y pen draw, rydym am achub bywydau babanod.”
Bydd timau ymchwil yng Nghymru yn cyfrannu at nod cyffredinol yr astudiaeth o recriwtio 320,000 o fenywod ar draws 80 o ganolfannau ymchwil yn y DU.
Meddai Sarah, sydd wedi bod yn Fydwraig Ymchwil ers dros 10 mlynedd: “Yr hyn sy’n wirioneddol wych am yr astudiaeth hon yw ei bod yn dilyn dull optio allan; mae menywod yn cael cynnig prawf GBS fel rhan o'u gofal safonol. Gallant bob amser wrthod y prawf wrth gwrs.
“Mae'r timau bydwreigiaeth clinigol yn yr ysbyty a'r gymuned yn wirioneddol anhygoel, maen nhw wedi dod ymlaen gymaint, ond maen nhw dal mor barod i ymgymryd â'r prosiectau hyn a'u cyflenwi. Mae hynny'n wirioneddol dynnu sylw at, nid yn unig ymroddiad bydwragedd, ond gwerth a phwysigrwydd ymchwil.”
Meddai Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno’r astudiaeth hon i sicrhau bod menywod a babanod sy’n byw yng Nghymru yn cael eu cynrychioli yn yr ymchwil. Bydd yr astudiaeth yn ateb cwestiynau pwysig ynghylch sut y gallwn leihau nifer y babanod newydd-anedig sy'n dal GBS.
“Mae bydwragedd ymchwil yn gwbl hanfodol i wneud i ymchwil fel hyn ddigwydd. Mae ein Bydwragedd Ymchwil yng Nghymru yn cyflawni rôl hynod arbenigol ac maent yn eiriolwyr diflino i ymchwil yn eu hymarfer sydd, heb amheuaeth, yn llywio’r safonau hynod uchel o ofal a gwasanaethau y mae menywod yn eu derbyn yng Nghymru. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i holl fydwragedd Cymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig.”
Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr orffen ei ran o GBS3 ar 31 Mawrth 2024.
I gael yr holl newyddion ymchwil diweddaraf ym maes bydwreigiaeth a thu hwnt, cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Today’s Research.