03/08/2023
Mae paneli nenfwd LED wedi cael eu gosod mewn wardiau ac adrannau ar hyd a lled Ysbyty Maelor Wrecsam i helpu i wella profiadau cleifion.
Mae'r teils yn cynnwys golygfeydd o'r awyr ac maent wedi cael eu gosod mewn gwahanol fannau yn yr ysbyty gan gynnwys y wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt, Radioleg, a'r Uned Gofal Critigol.
Nod y paneli yw tynnu sylw, a lleihau pryder cleifion sy'n derbyn triniaeth - gan roi profiad mwy cadarnhaol iddynt o fod yn yr ysbyty.
Yr ardal ddiweddaraf i dderbyn y paneli yw’r ystafelloedd ochr ar Ward y Bers. Yn aml, bydd y cleifion hyn yn teimlo'n unig ac yn methu mynd allan. Mae'r nenfydau'n caniatáu i gleifion a'u teuluoedd dreulio amser gwerthfawr gyda'i gilydd mewn amgylchedd heddychlon a thawel.
Dywedodd Dr Victoria Stevens, Meddyg Ymgynghorol Gofal Lliniarol: "Mae'r paneli awyr las hardd hyn wedi disodli'r teils nenfwd plaen. Rydym ni wedi dewis yr ystafelloedd ochr gan mai dyma lle rydym ni’n aml yn cefnogi ac yn trin ein cleifion mwyaf bregus ac ynysig. Mae’r paneli’n dod â'r tu allan i mewn, gan godi calonnau ein cleifion a thynnu eu sylw nhw a'u teuluoedd.
“Cafodd y paneli sydd wedi eu gosod mewn pedair ward acíwt, eu hariannu gan Elusen Cymorth Canser Seren Wib. Er nad oes gennym ni ward ganser benodol i gleifion mewnol, cytunodd yr elusen i ariannu’r rhain er budd cleifion canser ac eraill yn Ysbyty Maelor. Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn am eu cefnogaeth barhaus sy'n helpu i wella profiad ein cleifion."
Dywedodd Jayne Galante sy'n Fetron Gofal Critigol: "Rydym wedi cael ymateb gwych i'r paneli awyr las gan gleifion a'u teuluoedd. Maen nhw eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr.
“Hoffem ddiolch i’r Sefydliad Rhoi Organau am ariannu ein paneli awyr, mae’n ffordd hyfryd o roi gwên ar wynebau ein cleifion a gwella eu lles.”
Dywedodd Stephen Roberts, Rheolwr Radioleg: “Rydym wedi adnewyddu’r Adran Radioleg yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ddiweddar, ac roeddem yn awyddus i osod y paneli awyr las newydd hyn ar gyfer ein cleifion.
“Rydym wedi gosod y paneli awyr las, o fewn ein hardal MRI ac mewn ystafell sganiwr CT.”