Mae uwch nyrs o Ogledd Cymru yn annog mwy o bobl i ystyried gyrfa 'wobrwyol iawn' mewn nyrsio iechyd meddwl.
I ddathlu’r ail Ddydd Nyrsys Iechyd Meddwl blynyddol ar 21 Chwefror, mae Steve Forsyth, Cyfarwyddwr Nyrsio ar gyfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eisiau annog mwy o bobl i ymuno â'r proffesiwn.
Fel sefydliadau GIG ar draws y Deyrnas Unedig, mae gan BIPBC ddiffyg nyrsys iechyd meddwl, gydag oddeutu 20 y cant o'r swyddi gwag heb eu llenwi.
Dywed Steve, sy'n nyrs iechyd meddwl profiadol ei hun gyda dros ugain mlynedd o brofiad, bod y proffesiwn yn "fwy na swydd yn unig", gan ei ddisgrifio fel "ffordd o fyw, yn antur ac yn fraint."
Dywedodd: "Rydym wastad yn dymuno recriwtio pobl ardderchog i ymuno â'n timau. Mae cymaint o gyfleoedd amrywiol ar gael ar draws y rhanbarth mewn lleoliadau i gleifion mewnol a'n timau cymuned. Mae'r rhain yn cynnwys gweithio gyda phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, dibyniaeth ac anhwylderau bwyta.
"Mae cyfleoedd go iawn ar gael i bobl ddatblygu trwy gydol eu gyrfa ac rydym yn cynnig amgylchedd gefnogol sy'n caniatau ein nyrsys i wella eu sgiliau a'u gwybodaeth yn barhaus.
"Mae'r fraint o fod yn nyrs iechyd meddwl yn golygu y byddwn yn gwneud fy ugain mlynedd a mwy eto mewn eiliad.”
I ddathlu Dydd Nyrsys Iechyd Meddwl, mae nyrsys iechyd meddwl eraill ar draws y rhanbarth wedi bod yn rhannu’r hyn sy'n gwneud y proffesiwn mor arbennig.
Cymhwysodd Sophie Collenette o Dîm Iechyd Meddwl Cymuned Ynys Môn fel nyrs iechyd meddwl ddwy flynedd yn ôl, ar ôl cael ei hysbrydoli i ymuno â'r proffesiwn ar ôl y gofal a gafodd aelod o'i theulu.
Dywedodd: "Yr hyn sy'n gwneud y gwaith mor arbennig yw creu'r perthnasau therapiwtig hyn gyda phobl fel eu bod yn teimlo'n gyfforddus i agor allan. Mae gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd unigolyn yn wobrwyol iawn."
Ychwanegodd ei chydweithiwr, Natasha Bach, sydd wedi bod yn nyrs iechyd meddwl am dros ddeng mlynedd:
“Rwyf wrth fy modd yn cyfarfod pobl newydd ac yn mwynhau rhoi cefnogaeth iddynt yn ystod adegau anodd yn eu bywyd a dangos iddynt fod ffordd ymlaen. Mae'r rôl heriol lle nad oes yr un ddau ddiwrnod yr un fath, ac mae'r gwaith yn wobrwyol iawn."
Cymhwysodd Poppi-Drew Hughes fel nyrs iechyd meddwl ym mis Hydref 2019 ac mae’n awr yn gweithio yn Uned Diogelwch Canolig Tŷ Llywelyn yn Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan.
Mae staff yn yr ysbyty pwrpasol 25 gwely yn darparu triniaeth ac adsefydlu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol sydd wedi dod i gysylltiad â gwasanaethau cyfiawnder troseddol.
Dywedodd Poppi: "Rydych yn clywed am uned diogelwch canolig ac yn gweld ffensys diogelwch uchel a gall ymddangos yn frawychus o'r tu allan, ond mae'n un o'r amgylcheddau mwyaf diogel i weithio ynddo ac rydym yn cael ein cefnogi'n dda.
“Nid yw’r un fath â bod mewn ysbyty cyffredinol lle bydd rhywun efallai wedi torri asgwrn, yn cael cast amdano ac yn cael mynd adref. Mae gennym yr amser yma i ddod i adnabod pobl a'u cefndir, a datblygu perthnasau therapiwtig â hwy."
Dechreuodd Lyn Maclean, Rheolwr Tîm Cyswllt Seiciatrig sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd, ei gyrfa mewn nyrsio iechyd meddwl yn y flwyddyn 2000. Dywed ei fod yn fraint gallu cefnogi pobl pan fydd angen y gefnogaeth honno arnynt fwyaf.
Ychwanegodd: "Mae bod â’r gallu, y sgiliau, y wybodaeth ac yn bwysicaf oll, yr amser i fod gydag unigolion sydd angen tosturi, caredigrwydd a chlust i wrando arnynt pan fydd ei angen arnynt fwyaf yn gwneud y rôl yn arbennig iawn.
"Gall gyrfa mewn nyrsio iechyd meddwl fod yn amrywiol, gan ganiatáu i chi gael llawer o gyfleoedd anhygoel ym mhob agwedd o ofal iechyd meddwl."
Cymhwysodd Hayley Kay, sy'n gweithio yn yr Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, fel nyrs iechyd meddwl pedair blynedd yn ôl, ac yn ddiweddar mae wedi cael ei phenodi fel Dirprwy Reolwr Ward ar ward iechyd meddwl i bobl hŷn.
Dywedodd: "Nid oes yr un diwrnod yr un fath mewn nyrsio iechyd meddwl ac er y gall fod yn heriol ar adegau, mae wir yn swydd gwerth chweil. Mae llywio rhywun at adferiad a'u gwylio'n dod allan ar yr ochr arall o salwch llym yn wobrwyol iawn.”
Mae Claire Hocknell yn Nyrs Seiciatreg Cymuned yn Y Rhyl sy’n gweithio gyda phobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. Dywedodd:
"Roeddwn i eisiau bod yn nyrs camddefnyddio sylweddau oherwydd rwy'n cydnabod bod unrhyw un yn gallu cychwyn defnyddio sylweddau i ddelio â bywyd. Rydym yn cefnogi pobl i ddysgu sgiliau ar sut mae rheoli eu hiechyd meddwl eu hunain. Ond, rydym yn trin pobl yn holistaidd ac felly'n ymdrin ag elfennau eraill o'u bywyd sydd efallai'n effeithio ar eu hiechyd meddwl, megis problemau tai, materion perthynas, iechyd corfforol, unigrwydd a budd-daliadau.
"Mae gweld rhywun yn trawsnewid eu bywyd yn werth yr ymdrech."
Ers cymhwyso fel nyrs iechyd meddwl wyth mlynedd yn ôl, mae Matt Jarvis wedi rheoli tîm iechyd meddwl yn Ysbyty Maelor Wrecsam a gafodd ei enwi fel Tîm y Flwyddyn y Nursing Times yn 2019. Yn ddiweddar mae wedi dechrau rôl newydd gyda Thîm Iechyd Meddwl Cymuned Aston House yn Sir y Fflint.
Dywedodd Matt: "Pan adewais yr ysgol roeddwn wastad eisiau helpu pobl ond nid oeddwn yn siŵr lle byddwn i'n ffitio mewn. Roedd yna rywbeth arbennig am nyrsio iechyd meddwl a oedd yn ei roi ar wahân. Roedd yn golygu deall yr unigolyn fel un cyfan a ffurfio perthynas ymddiriedus.
"Rwyf wedi cyfarfod pobl arbennig yn ystod fy amser fel nyrs a bob tro rwy'n gweithio gyda rhywun, rwy'n dysgu rhywbeth amdanynt, ond hefyd yn dysgu rhywbeth amdanat fy hun hefyd.
"Rwyf wedi gweld rhai o'r bobl fwyaf swil a thawel yn datblygu ac yn magu hyder i ddod yn rhai o'r nyrsys gorau. I mi, mae wedi bod yn daith bersonol wobrwyol iawn, ac rwy'n mor falch o fod yn nyrs iechyd meddwl sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru."
Mae Dydd Nyrsys Iechyd Meddwl yn ddathliad blynyddol i hyrwyddo a dathlu gwaith nyrsys iechyd meddwl ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n ffurfio rhan o ddathliadau ehangach BIPBC i ddathlu Mudiad Iechyd y Byd yn dynodi 2020 fel Blwyddyn y Nyrsys a'r Bydwragedd.
Darperir cyrsiau gradd Nyrsio Iechyd Meddwl gan Brifysgol Bangor, lle gall myfyrwyr astudio ar gampysau ym Mangor neu Wrecsam.
Yn wahanol i Loegr, mae'r rheiny sy'n astudio mewn Prifysgolion yng Nghymru yn gymwys am fwrsariaeth nyrsio GIG Cymru, sy'n golygu y bydd ffioedd yn cael eu talu amdanynt ac efallai bydd costau byw ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i nyrsys sy'n dechrau eu hastudiaethau yn y flwyddyn academaidd 2020-21.
Fwy o fanylion am gyrsiau Nyrsio Iechyd Meddwl Prifysgol Bangor.