27.01.23
Mae ffigurau newydd yn dangos yn glir y gwaith hollbwysig y mae fferyllfeydd a meddygon teulu wedi’i wneud i gynnal y GIG yn ystod y cyfnod prysuraf yn ei hanes.
Gyda mwy o bwysau nag erioed ar y gwasanaeth iechyd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, trodd miloedd o bobl ar draws Gogledd Cymru at eu fferyllfa leol i gael gofal – a hynny’n aml am y tro cyntaf.
Yn y cyfamser, gwelodd Practisau Meddygon Teulu, a oedd eisoes yn darparu mwy o ymgynghoriadau cleifion nag erioed, gynnydd mawr yn y galw hefyd.
Mae arweinwyr y GIG wedi diolch i bobl Gogledd Cymru am wneud eu rhan drwy ddewis y ffyrdd mwyaf priodol i gael mynediad at ofal, gan ddiogelu gwasanaeth iechyd sydd wedi bod ‘ar dorri’ yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Nododd fferyllfeydd cymunedol yng Ngogledd Cymru gynnydd o 345 y cant yn nifer y bobl a oedd yn ceisio meddyginiaethau brys yn ystod Rhagfyr 2022, o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2021, ac fe gynhaliwyd 3,229 o ymgynghoriadau.
Gwelwyd cynnydd o 177 y cant yn nifer yr ymgynghoriadau o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin fferyllfeydd cymunedol hefyd yn ystod yr un cyfnod, gyda 6,278 yn elwa o’r cynllun sy’n cynnig cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer anhwylderau cyffredin na ellir eu rheoli trwy hunanofal, gan osgoi’r angen am apwyntiad Meddyg Teulu.
Yn y cyfamser, cynyddodd nifer yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd o dan y Gwasanaeth Rhagnodi Annibynnol 300 y cant, gyda 1,799 o bobl yn derbyn cymorth. Mae’r gwasanaeth, sydd ar gael mewn nifer cynyddol o fferyllfeydd cymunedol, yn galluogi pobl i dderbyn asesiad a meddyginiaeth ar bresgripsiwn ar gyfer mân afiechydon – yr un diwrnod fel arfer- yn aml heb fod angen apwyntiad.
Gwelwyd y galw uchaf erioed ar wasanaethau iechyd, gymaint felly nes arwain at brinder gwrthfiotigau ledled y DU, er bod lefelau stoc bellach wedi gwella.
Mae’r fferyllydd Llyr Hughes, o Fferyllwyr Llŷn Cyf, yng Ngwynedd, yn dweud mai’r wythnosau diwethaf fu’r rhai prysuraf mewn cof i’r rhai sy’n gweithio mewn fferylliaeth gymunedol.
“Mae gwerthfawrogiad cynyddol gan y cyhoedd o’r gwasanaethau o ansawdd uchel y gall fferyllfeydd cymunedol eu darparu, fel y gwelir yn yr ystadegau hyn,” esboniodd.
“Mae hyn yn ysgafnhau’r llwyth gwaith yn y gwasanaeth iechyd oherwydd byddai pobl fel arall wedi galw eu meddyg teulu neu hyd yn oed wedi dod i’r Adran Achosion Brys.
“Mae Bwrdd Iechyd Betsi wedi bod ymhlith yr arloeswyr sy’n datblygu ac ehangu’r gwasanaethau acíwt a gynigir mewn fferyllfeydd cymunedol ac rydym yn gwybod bod hyn yn gwneud gwahaniaeth i’r GIG yn ystod y cyfnod heriol yma.
“Mae’n cydweithwyr fferylliaeth gymunedol wedi bod yn gweithio hyd eithaf eu gallu ac er ei bod hi wedi bod yn gyfnod blinedig iawn, mae hefyd wedi rhoi boddhad mawr gan ein bod yn gwybod bod cleifion yn gwerthfawrogi’n fawr y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.”
Mae Practisau Meddygon Teulu ar draws y rhanbarth wedi chwarae eu rhan hefyd wrth ymateb i’r galw mwyaf erioed am ofal. Mae ystadegau gan Gymdeithas Feddygol Prydain yn dangos bod mwy o gleifion yn cael eu gweld mewn Practisau Meddygon Teulu nag ar unrhyw adeg cyn y pandemig COVID, er gwaethaf gostyngiad yn niferoedd meddygon teulu, galw cynyddol, a’r trafferthion wrth recriwtio a chadw staff.
Dywedodd Dr Sara Bodey, Partner Meddyg Teulu ym Meddygfa Bryn Darland, Coedpoeth, a Chadeirydd Pwyllgor Meddygol Lleol Meddygon Teulu Gogledd Cymru:
“Gwelodd sawl Practis Meddygon Teulu gynnydd triphlyg yn nifer y ceisiadau brys ar y diwrnod gan gleifion ym mis Rhagfyr, ond hyd yn oed cyn hynny, roedd data ledled y DU yn awgrymu bod cynnydd o 20 y cant yn llwyth gwaith meddygon teulu.
“Mae’n dorcalonnus gweld sylwadau gan y cyhoedd yn beirniadu meddygon teulu, oherwydd rydyn ni’n cefnogi mwy o gleifion nag erioed o’r blaen ac mae’n cydweithwyr yn mynd yr ail filltir.
“Rwy’n credu mai’r wythnosau diwethaf oedd y cyfnod gwaethaf mewn 19 mlynedd o weithio fel meddyg teulu o ran pwysau a llwyth gwaith ac mae gweithlu’r practisau meddygol wedi blino’n llwyr.
Rydyn ni’n dal i garu’r hyn rydyn ni’n ei wneud - dyna pam rydyn ni’n dal yma a heb adael, ond mae’n mynd yn fwy anodd cynnal y brwdfrydedd oherwydd y pwysau di-ildio.”
Mae Karen Higgins, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol BIPBC, wedi talu teyrnged i’r staff gofal sylfaenol am eu gwaith diflino, tra’n diolch i’r cyhoedd yng Ngogledd Cymru am eu cefnogaeth barhaus.
“Mae’n parhau i fod yn gyfnod eithriadol o heriol i’n cydweithwyr ar draws ein gwasanaethau iechyd, yn enwedig ym maes gofal sylfaenol,” meddai.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymdrechion parhaus gan staff mewn fferyllfeydd a meddygfeydd mewn amgylchiadau mor anodd.
“Rydym hefyd yn ddyledus iawn i bobl Gogledd Cymru am ddewis y gwasanaethau GIG mwyaf priodol yn ystod y cyfnod hynod heriol yma.
“Mae’n braf iawn gweld, yn benodol, bod mwy o bobl â mân afiechydon neu gyflyrau yn manteisio ar y cyngor arbenigol rhad ac am ddim a ddarperir yn eu fferyllfa gymunedol leol, gwasanaeth y gellir ei gyrchu’n gynt fel arfer na gwasanaethau eraill.
“Mae hyn wedi helpu lleihau’r derbyniadau diangen yn ein Hadrannau Achosion Brys, sydd wedi bod mewn sefyllfa argyfyngus ar adegau yn ystod yr wythnosau diwethaf.
“Rydym yn annog aelodau’r cyhoedd sydd angen cymorth i ymweld â Gwefan 111 GIG Cymru yn y lle cyntaf i gael gwybodaeth am y gwasanaeth mwyaf priodol, boed yn hunanofal yn y cartref, ymweliad â’r fferyllfa, apwyntiad â meddyg teulu, Uned Mân Anafiadau, neu, mewn amgylchiadau lle mae bywyd yn y fantol, Adran Achosion Brys yr ysbyty.”
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau iechyd lleol, ewch i wefan BIPBC.