Mae Hepatitis C bron iawn wedi cael ei ddileu o CEF Berwyn, carchar mwyaf y DU, yn dilyn menter ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Iechyd Cyhoeddus Cymru ac elusen Ymddiriedolaeth Hepatitis C.
Mewn rhaglen ddiweddar, cynigwyd prawf i 100% o garcharorion, cafodd 90% o ddynion eu profi, a dechreuodd 90% o'r rhai a gafodd ddiagnosis o hepatitis C driniaeth. Gelwir hyn yn micro-ddileu, sy'n golygu o fewn amgylchedd penodol, yn yr achos hwn, CEF Berwyn, bod rhai gofynion ar gyfer profi a thrin hepatitis C wedi'u cyrraedd.
Cafodd hyn ei gyflawni drwy wneud profion yn fater o drefn, gyda charcharorion yn cael cynnig prawf cyflym o fewn dyddiau o gyrraedd y carchar, a gyda thriniaeth yn cael ei rhoi i’r rhai sydd ei hangen.
Dywedodd Fferyllydd o BIPBC, Elizabeth Hurry: “CEF Berwyn yw carchar mwyaf y DU, felly roedd heriau unigryw. Mae’r tîm wedi gweithio’n ddiflino dros y blynyddoedd diwethaf yn addysgu i godi ymwybyddiaeth a lleihau stigma yn ogystal â phrofi a thrin gan ddefnyddio llwybr symleiddio. Rydym yn hynod falch o allu cyhoeddi ein bod wedi micro-ddileu hepatitis C o fewn CEF Berwyn.”
Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed sy’n effeithio’r iau ac sy’n hawdd ei drin gyda 8-12 wythnos o driniaeth drwy’r geg sy’n atal cymhlethdodau yn y dyfodol.
Dywedodd Lee Devereux, Rheolwr Carchardai Ymddiriedolaeth Hepatitis C De Lloegr a Chymru: "Wrth gerdded o amgylch CEF Berwyn, mae'r agwedd tuag at hepatitis C yn gadarnhaol a bron nad yw'r stigma yn bodoli bellach. Heb y cyfoedion, ni fyddai wedi bod yn bosibl. Mae CEF Berwyn bellach yn un o garchardai blaenllaw’r byd ar gyfer micro-ddileu hepatitis C."
Roedd y tîm o fewn CEF Berwyn yn cynnwys nyrs feirysau a gludir yn y gwaed, fferyllwyr rhagnodi a chyfoedion Ymddiriedolaeth Hepatitis C, ac roedd hefyd yn cynnwys cyfoedion sy’n garcharorion. Mae CEF Berwyn wedi llwyddo i gyflawni micro-ddileu a’i gynnal dros y pum mis diwethaf ac wedi cyrraedd targedau cenedlaethol yn gynt na'r disgwyl.
Dywedodd Louise Davies, Arweinydd Profion Pwynt Gofal Cenedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae cyflawni hyn yn CEF Berwyn wedi bod yn ymdrech tîm amlddisgyblaethol cyflawn a bydd gwaith yn parhau i gynnal y statws micro-ddileu wrth symud ymlaen fel bod y carchar yn parhau i fodloni’r targedau a osodir gan Lywodraeth Cymru.”
Mae’r rhaglen profi a thrin yn rhan o gynlluniau gweithredu Llywodraeth Cymru i ficro-ddileu hepatitis C yn y gymuned ac ym mhob carchar yng Nghymru.
Cyflwynwyd y rhaglen profi a thrin hepatitis C cyflym gyntaf yn BIPBC mewn clinigau cymunedol yn 2019. Daeth hwn yn brosiect allgymorth arobryn sydd wedi helpu dros 170 o bobl yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n profi digartrefedd, i gael triniaeth ar gyfer hepatitis C.