Mae meddygon teulu ar draws Gogledd Cymru'n manteisio ar gyngor meddygol arbenigol ychwanegol ac yn osgoi teithiau diangen i'r ysbyty, diolch i ap newydd.
Fel rhan o gontract cenedlaethol, mae gan feddygon teulu a thimau gofal cychwynnol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fynediad erbyn hyn i adnodd Consultant Connect, sy'n golygu eu bod yn gallu cysylltu â meddygon ymgynghorol i gael cyngor ac arweiniad mewn ystod o arbenigeddau.
Dros y pedair wythnos gyntaf ers i'r adnodd fod ar gael, mae meddygon teulu wedi rhoi gwybod bod 47 y cant o gleifion mewn achosion lle'r oeddent wedi defnyddio'r ap am arweiniad pellach yn osgoi apwyntiadau dilynol yn yr ysbyty.
Trwy fynediad uniongyrchol at gyngor gan feddygon ymgynghorol, gall meddygon teulu sicrhau bod cleifion yn gallu cael y gofal cywir y tro cyntaf.
Mae hyn yn aml yn golygu bod modd i gleifion osgoi teithiau diangen i'r ysbyty, gan ryddhau'r amser y bydd meddygon ymgynghorol ysbytai'n ei dreulio yn gweld cleifion y mae gwir angen iddynt eu gweld.
Cyflwynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y gwasanaeth ar 29 Mai 2020 i 426 o feddygon teulu mewn 103 o bractisau sy'n gyfrifol am dros 700,000 o gleifion.
Dros y pedair wythnos ddilynol, gwnaeth meddygon teulu ddefnyddio'r ap i gael cyngor arbenigol ar gyfer 58 o gleifion gan feddygon ymgynghorol mewn ysbytai. Ar ôl manteisio ar gyngor, gwnaeth 27 o'r cleifion hynny osgoi apwyntiad pellach yn un o'r tri ysbyty cyffredinol dosbarth yng Ngogledd Cymru.
O'i lansio, cafodd meddygon teulu fynediad at 19 o arbenigeddau'r GIG o'r Rhwydwaith Genedlaethol i Feddygon Ymgynghorol, yn ogystal ag ystod o glinigwyr sy'n gweithio yng Ngogledd Cymru.
Mae adrannau sy'n cynnig cyngor yn cynnwys Cardioleg yn Ysbyty Glan Clwyd, Adran Gwybodaeth am Feddyginiaethau Ysbyty Maelor Wrecsam, a Meddygaeth Resbiradol yn Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd Dr Nicky Davies, meddyg teulu a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Gofal Cychwynnol: "Bydd helpu i wella cyfathrebu rhwng ein cydweithwyr mewn gofal cychwynnol ac eilaidd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion.
“Dros amser, mae'n bosibl y bydd hyn yn lleihau amseroedd aros, ac yn rhyddhau amser clinigol i bobl y mae gwir angen iddynt weld meddyg.
“Mae gwybod bod rhywun arall ar ben y ffôn y gallwch rannu syniadau gydag ef a derbyn cyngor ganddo, o gymorth mawr."
Dywedodd Dr Bisola Ekwueme, Meddyg Teulu ac Arweinydd Clwstwr Gogledd-orllewin Sir y Fflint: “O'n safbwynt ni, mae'n wych bod modd i ni fanteisio ar wasanaethau meddyg ymgynghorol a chael ymateb yn ôl.
“Mae'r rhan fwyaf o'r adborth rwyf wedi'i gael wedi arwain at ymateb mewn rhyw 30 eiliad, felly gellir ei wneud hyd yn oed tra bo'r claf yn bresennol yn y feddygfa.
“Mae'r gwasanaeth yn arbed yr amser a'r ymdrech sydd eu hangen wrth anfon cyfeiriad, yn enwedig ar gyfer cyfeiriad archwiliadol nad yw efallai'n angenrheidiol. Mae o gymorth mawr cael rhywun y gallwch ei holi neu gael sicrwydd ganddo fel nad oes angen i'r claf aros.
Gwnaeth Dr Ushan Andrady, Meddyg Ymgynghorol mewn Iechyd Rhyw, danysgrifio Gwasanaeth Iechyd Rhyw a HIV Ysbyty Gwynedd i adnodd Consultant Connect, yn ddiweddar.
Dywedodd: “Rwy'n meddwl bod llawer o fuddion i'r ddwy ochr wrth helpu cydweithwyr mewn gofal cychwynnol i fanteisio ar gyngor arbenigol mewn ffordd gyflym a chyfleus.
“Gan fedddwl am iechyd rhyw yn benodol, mae'n bwnc sensitif lle y gallai cleifion deimlo'n nerfus neu embaras am gael eu cyfeirio at glinig iechyd rhyw. Os gallwn helpu meddygon teulu i gael mynediad cyflym i'r cyngor a'r arweiniad sydd eu hangen, bydd yn helpu i sicrhau bod llawer o bobl yn cael yr ymyriad clinigol sydd ei angen arnynt.
“Gallai leihau'r pwysau ar ein hamser clinigol, ac mae'n lleihau'r angen i bobl ffonio switsfwrdd yr ysbyty.
“I gleifion sydd â HIV neu sydd â systemau imiwnedd gwannach hefyd, mae'n golygu y byddwn, efallai, yn gallu lleihau'r angen i ddod i'r ysbyty am apwyntiadau, gan osgoi, o bosibl, unrhyw risg ychwanegol o ddal haint."
Mae clinigwyr o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn manteisio ar y gwasanaeth naill ai trwy ffonio rhif ffôn unigol neu drwy ddefnyddio Ap Consultant Connect. Ar ôl dewis arbenigedd o ddewislen, cânt eu cysylltu ag arbenigwr mewn 28 eiliad ar gyfartaledd.
Yna, gall clinigwyr ddefnyddio'r cyfleuster lluniau ar yr ap i dynnu lluniau clinigol ac i'w rhannu trwy system negeseuon diogel y cyfrwng.
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru: “Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu dechrau cyflwyno ap Consultant Connect yn GIG Cymru.
“Bydd hyn yn helpu i gefnogi gofal cychwynnol er mwyn pennu'r driniaeth gywir i'w cleifion.
“Ar hyn o bryd, bydd yn arbed amser hollbwysig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn lleihau'r ymweliadau ysbyty sydd eu hangen ar gleifion, ar adeg pan fo'n GIG yn wynebu pwysau ychwanegol.
“Yn y tymor hir, mae defnyddio'r dechnoleg hon yn rhan bwysig o'n cynllun ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach."
Mae rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar gael o: https://llyw.cymru/ap-newydd-i-roi-cyngor-arbenigol-mewn-eiliadau-i-feddygon-teulu