25 Mai, 2023
Mae meddyg, sydd wedi’i disgrifio fel 'arweinydd gweledigaethol' wedi cael ei chydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol sy'n anrhydeddu'r merched ethnig gorau a mwyaf disglair yng Nghymru.
Penodwyd Dr Kakali Mitra yn Radiolegydd Ymgynghorol Ymyrrol yn Ysbyty Gwynedd yn 2007, ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Clinigol Radioleg i’r Bwrdd Iechyd ers 2018. Yn rhinwedd y rôl hon mae hi wedi goruchwylio’r trawsnewidiadau yng ngwasanaethau Radioleg yng Ngogledd Cymru.
Cafodd Dr Mitra ei henwebu gan ei chydweithiwr, Dr Yee Ping Teoh, Patholegydd Ymgynghorol Cemegol, am y Wobr Rheolaeth ac Arweinyddiaeth yng Ngwobrau Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA) yng Nghaerdydd.
Cafodd y fam i ddau ei gwobrwyo â thystysgrif Cyfraniad Teilwng Iawn yn y seremoni yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, a chafodd gyfle hefyd i gwrdd â'r Prif Weinidog, Mark Drakeford a sylfaenydd a chadeirydd EMWWAA, yr Athro Meena Upadhyaya OBE.
Dywedodd Dr Teoh: “Mae Dr Mitra yn arweinydd gweithgar tu hwnt, sy’n llawn angerdd gyda gweledigaeth glir, mae hi wedi bod yn allweddol wrth drawsnewid gwasanaethau Radioleg yn ein Bwrdd Iechyd ers bron i ddegawd.
"Ynghyd â'i thîm Radioleg, mae hi wedi llywio'r adran trwy rai o’r cyfnodau mwyaf heriol yn ddiweddar, gan foderneiddio gwasanaethau Radioleg trwy gydol pandemig COVID-19 i ymdopi â gofynion cynyddol ar draws pob arbenigedd sy'n gofyn am ryw fath o ddelweddu Radioleg.
“Gyda'r pwysau cost enfawr presennol i wasanaethau'r GIG, mae hi wedi trawsnewid ei gwasanaethau adrannol i wneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol wrth sicrhau y gall ei hadran ddelio â'r llwyth wrth gefn o ddiagnosau canser dan amheuaeth ar frys a monitro cyflyrau meddygol cronig.
“Mae hyn yn llwyddiant mor arbennig i Dr Mitra – rydym yn falch iawn ohoni.”
Roedd Dr Mitra, ynghyd â chydweithwyr clinigol eraill, hefyd yn flaengar wrth helpu i sefydlu'r Clinigau Diagnosis Cyflym un-stop ar draws y Bwrdd Iechyd i ganiatáu cyfeiriadau uniongyrchol gan y meddyg teulu i gleifion â diagnosis canser sy’n peri pryder fel y byddant yn cael sganiau diagnostig brys gan gynnwys sganiau Tomograffeg Gyfrifiadurol (CT) ar yr un diwrnod â'u hymgynghoriad yn yr ysbyty.
Dywedodd Dr Mitra: "Mae'n fraint ac yn brofiad sy’n rhoi boddhad cael cydnabyddiaeth ar sail Cymru gyfan. I mi, roedd yn gyfle anhygoel i fod o amgylch arweinwyr sy’n ferched o Gymru a chlywed am yr hyn maen nhw'n eu gwneud mor dda.
“Rydw i’n hynod angerddol am Radioleg a Gogledd Cymru, felly, mae’r dystysgrif hon yn gydnabyddiaeth arbennig o’n gwaith a’r hyn rydym yn ceisio ei wneud i’n cleifion”.