Mae mam i fachgen 13 oed a fu bron â boddi yn y môr wedi diolch i'r gwasanaethau brys am achub bywyd ei mab.
Bu Rian Lewis Bradburn ymhlith grŵp o bedwar yr oedd arnynt angen triniaeth yn yr ysbyty ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio yn y môr yn Aberdyfi ddydd Sul, 26 Gorffennaf.
Gwnaeth Gwylwyr y Glannau EM anfon Timau Achub Gwylwyr y Glannau Aberdyfi a Borth, bad achub RNLI Aberdyfi a'r hofrennydd achub o Gaernarfon i helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r ddau ambiwlans awyr i achub y rheiny a oedd wedi i drafferthion yn y môr.
Bu Rian yn anymwybodol pan gafod ei dynnu o'r dŵr a chafodd ei ddadebru gan aelod o'r tîm achub cyn cael ei gludo mewn hofrennydd i Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd ei fam, Sarah Lewis, y byddai'n ddiolchgar am byth i'r rheiny a ddaeth i achub ei mab.
“Roedd Rian wedi mynd ar wibdaith gyda'i dad i Aberdyfi ac roedd yn chwarae ar y traeth pan aeth i'r môr i nofio.
“Nid yw'n cofio ryw lawer ond roedd gydag ychydig o bobl eraill ac roeddent yn neidio dros y tonnau.
“Yn sydyn cafodd ei dynnu o dan y wyneb gan y cerrynt terfol ac ni allai nofio'n ôl i'r wyneb.
“Gellid ond dychmygu beth fyddai wedi digwydd oni bai am gamau sydyn y gwasanaethau brys y diwrnod hwnnw, ni allaf ddiolch iddynt ddigon am achub fy mab," meddai.
Mae Rian wedi bod yn dod dros y digwyddiad yn Ward y Plant Ysbyty Gwynedd dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf ac mae'n ddigon iach erbyn hyn i ddychwelyd i'w gartref yn Amwythig.
Ychwanegodd Sarah: “Rydym yn ddiolchgar iawn i'r staff ar Ward y Plant, maent wedi bod yn wych gyda ni ac maent wedi rhoi gofal gwych i Rian yn ystod ei gyfnod gyda nhw.
“Rydym yn teimlo'n lwcus iawn bod Rian yn dal i fod gyda ni, gallai pethau fod wedi troi allan yn wahanol iawn.
“Rydw i wir eisiau i beth sydd wedi digwydd dynnu sylw at beryglon y môr; nid ydw i am i hyn ddigwydd i neb arall.
“Er y gallai ymddangos ei fod yn ddiwrnod heulog braf, mae peryglon yn dal i fod yno pan fyddwch yn mynd i'r môr ac rydw i'n gobeithio y bydd beth sydd wedi digwydd yn codi mwy o ymwybyddiaeth am hyn," ychwanegodd Sarah.
Dywedodd Lee Crumpler, Comander Ardal gyda Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru: “Ymateb amlasiantaethol i ddigwyddiad difrifol yng Ngwynedd oedd hon, lle bu'n rhaid i Wylwyr y Glannau, RNLI a'n partneriaid yn y gwasanaethau brys weithio gyda'i gilydd, ochr yn ochr, yn gyflym ac yn effeithlon, i dynnu'r rheiny a oedd yn cael trafferthion o'r dŵr ac i roi cymorth cyntaf i achub bywyd.
“Mae'r digwyddiad hwn yn fodd arall o atgoffa am beryglon cael eich dal gan y môr a chan gerrynt terfol, yn yr achos hwn. Cymerwch ofal arbennig yr haf yma pan fyddwch yn ymweld â'r traeth a'r arfordir. Fel bob amser, os cewch drafferthion neu'n gweld bod rhywun arall yn cael trafferthion yn y môr neu ar yr arfordir, ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.”
Ychwanegodd Jo Douglas, Rheolwr Gwasanaethau Clinigol Paediatreg a'r Newydd-anedig yn Ysbyty Gwynedd: "Rydym yn falch iawn o weld bod Rian wedi gwella a'i fod ar ei ffordd adref erbyn hyn.
“Bydd hyn wedi bod yn brofiad hynod drawmatig i Rian a'i deulu a dymunwn yn dda iddo yn ei adferiad."