Mae pob un ohonom angen amddiffyn ein hunain, ein cymunedau a'n GIG y gaeaf hwn - dyma'r alwad sy'n dod gan y seren ffilm o Gymru, Michael Sheen.
Daw'r alwad wrth i bobl ar draws Gogledd Cymru gael eu hannog i sicrhau eu bod yn cael eu brechlyn ffliw eleni. Mae'r potensial ar gyfer cyd-gylchrediad COVID-19 ar yr un pryd yn gwneud rhaglen brechlyn eleni yn bwysicach nag erioed.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus a Dirprwy Brif Weithredwr BIPBC: "Mae'n bwysig iawn i bobl gael eu brechu rhag y ffliw. Mae'n ffordd mor syml i helpu i’ch amddiffyn eich hun, eich teulu a'ch ffrindiau rhag beth all fod yn salwch sy'n fygythiad i fywyd.
"Eleni, mae gennym y cymhlethdod o COVID-19 yn cylchredeg yn ein cymunedau, felly nid yw cymryd cam ychwanegol i amddiffyn eich hun a'n gwasanaethau GIG gwerthfawr erioed wedi bod mor bwysig.
"Mae llawer o waith wedi ei wneud i sicrhau y caiff y brechiadau eu rhoi mewn amgylcheddau diogel ble mae mesurau hylendid a phellhau cymdeithasol wedi eu rhoi ar waith."
Mae’r actor o Gymru, Michael Sheen wedi ychwanegu ei lais at ymgyrch eleni ac wedi annog pobl Gogledd Cymru i gefnogi eu hunain a’r GIG y gaeaf hwn.
Dywedodd: "Mae pob un ohonom yn gwybod pa mor brysur mae'r GIG wedi bod dros y misoedd diwethaf yn mynd i'r afael ag effeithiau COVID-19 ac mae'r mwyafrif ohonom wedi sefyll ar ein trothwy'n eu cymeradwyo. Mae angen ein cefnogaeth arnynt o hyd, mae angen ein cymorth arnynt i gadw firws arall a allai fod yn farwol o dan reolaeth - y ffliw.
"Mae COVID-19 yn parhau i gylchredeg ac rydym yn clywed pryderon am ail don y gaeaf hwn, felly eleni mae'n bwysicach nag erioed i wneud ein rhan wrth leihau'r effaith mae'r ffliw yn ei gael ar ein hysbytai.
"Amddiffynnwch eich hunain, eich cymunedau a'ch GIG. Ewch i gael y brechlyn ffliw cyn gynted â phosib."
Os hoffech wybod mwy am eich cymhwysedd ar gyfer y pigiad ffliw a ble gallwch ymweld https://bipbc.gig.cymru/cyngor-iechyd/imiwneiddiooldold/y-ffliw/