Neidio i'r prif gynnwy

Mae uned prawf gwaed newydd yn lleihau amseroedd aros o wythnosau i ddyddiau'n unig

13/07/2023

Mae amseroedd aros i gleifion sy'n disgwyl apwyntiad prawf gwaed yn Wrecsam wedi gostwng o chwe wythnos i dri diwrnod diolch i Uned Fflebotomi newydd.

Mae’r uned, a elwir yn Tŷ Madoc, wedi agor yn Ysbyty Maelor Wrecsam gyda chwe chadair newydd i gleifion gael tynnu eu gwaed, ac mae hefyd yn cynnig apwyntiadau gyda’r nos.

Oherwydd y pandemig, cynyddodd amseroedd aros am brawf gwaed i chwe wythnos ar gyfartaledd wrth i nifer llai o leoliadau gynnig apwyntiadau prawf gwaed. Mae Tŷ Madoc wedi agor i helpu i ateb y galw ac anghenion cynyddol cleifion yn yr ardal, ac ers iddo agor mae 15,000 o brofion gwaed yn cael eu cynnal bob mis yn Wrecsam yn unig, sy’n helpu i leihau’r amseroedd aros i gleifion.

Dywedodd Deborah Brockley, Rheolwr Gwasanaethau Fflebotomi yn Ysbyty Maelor Wrecsam: “Rydym wrth ein bodd fel gwasanaeth i allu gwella’r cyfleusterau y gallwn eu cynnig a rhoi mwy o opsiynau i’n cleifion gael apwyntiad prawf gwaed pan fo’n gyfleus iddyn nhw.

“Mae’r uned newydd wedi cael derbyniad da gan gleifion a staff fel ei gilydd, a thrwy arbed pobl rhag aros wythnosau lu am brawf gwaed mae wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ofal a phrofiad cleifion.”

Mae'r uned newydd wedi'i lleoli ger Caban y Groes Goch, ym Mynedfa B Ysbyty Maelor Wrecsam, ar Ffordd Croesnewydd. Mae Clinig Fflebotomi Grove Road, yn Wrecsam, bellach ar gau.

Mae'r ysbyty hefyd yn bwriadu agor tair cadair fflebotomi ychwanegol yn ddiweddarach eleni yn adeilad newydd Plas Gororau, gerllaw Ysbyty Maelor Wrecsam, er mwyn cefnogi'r gwasanaeth ymhellach a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl.