Bellach gall pobl sy'n byw yn rhanbarth Gogledd Cymru gael prawf coronafirws am ddim os oes ganddynt unrhyw un o ystod ehangach o symptomau.
Yn ogystal â'r tri phrif symptom : gwres /twymyn, peswch parhaus newydd neu golli / newid blas ac arogl; mae pobl bellach yn gallu cael prawf os oes ganddynt unrhyw un o restr newydd o symptomau eraill hefyd.
Y rhain yw: Symptomau tebyg i ffliw, nad ydynt yn cael eu hachosi gan gyflyrau hysbys fel twymyn gwair, gan gynnwys unrhyw un neu bob un o’r symptomau canlynol: myalgia (poen neu deimlad anghysurus yn y cyhyrau); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn llawn; tisian yn barhaus; dolur gwddf a/neu grygni, prinder anadl neu wichian; unrhyw symptomau newydd neu newid yn dilyn prawf negyddol blaenorol
Yn unol â chyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru, bydd Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Betsi Cadwaladr yn cynnig hyn i’r holl bobl a ddaeth i gysylltiad â rhai sydd wedi profi’n bositif, yn hytrach na gofyn iddynt aros nes eu bod yn datblygu symptomau, ac yn cynnig profion i unrhyw un sydd â’u symptomau wedi newid yn dilyn canlyniad prawf negyddol blaenorol.
Mae'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud i helpu i ddod o hyd i achosion o amrywiadau newydd o COVID-19 ac i ganfod pobl a allai fod mewn perygl o drosglwyddo'r afiechyd i eraill heb yn wybod. Mae nifer o ardaloedd byrddau iechyd yng Nghymru eisoes yn profi fel hyn.
Meddai Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd: “Mae nifer yr achosion o COVID-19 yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn gostwng yn gyson ers mis Chwefror. Er mwyn cadw’r niferoedd i lawr ac i hwyluso llacio’r cyfyngiadau cenedlaethol rydym angen gwella ymhellach ein gallu i ddod o hyd i achosion a allai fel arall beidio cael eu canfod, a hynny cyn gynted ag y gallwn.
“Gwyddom nad oes gan un o bob tri o bobl sydd â’r firws unrhyw un o’r tri symptom clasurol ac y gall yr amrywiadau newydd o’r firws sy’n cylchredeg yng Nghymru achosi i bobl fynd yn sâl mewn ffyrdd gwahanol. Rydym wedi ehangu'r gofynion ar gyfer cael prawf yn unol â hyn i sicrhau ein bod yn gallu adnabod pob achos posibl.
“Mae'n arbennig o bwysig wrth i’r cyfyngiadau clo lacio bod unrhyw un fod gyda’r firws yn cael ei brofi ac wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio mae ein neges yn syml - os oes gennych unrhyw symptomau, ewch i gael prawf.
Rhaid i mi atgoffa'r preswylwyr i barhau i gadw at y mesurau a gyflwynwyd a pharhau i gadw pellter cymdeithasol, cynnal hylendid dwylo, gwisgo gorchuddion wyneb lle bo angen ac aros mewn lleoedd wedi'u hawyru'n dda. "
Gall preswylwyr ardal Betsi Cadwaladr gael mynediad i brawf yn unrhyw un o'r canolfannau profi rhanbarthol, neu trwy ddefnyddio pecyn prawf cartref.
Mae'r canolfannau profi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y mannau canlynol:
Gellir archebu profion ar-lein neu trwy ffonio 119. Wrth archebu ar-lein oherwydd y rhestr ehangach o symptomau dylai preswylwyr ddewis yr opsiwn “gofynnodd eich cyngor lleol i chi gael prawf.”
Nid yw'r canllawiau cenedlaethol sy'n ymwneud â symptomau Coronafirws y dylid edrych amdanynt wedi newid. Mae'n arferol i Dimau Rheoli Digwyddiadau rhanbarthol osod trothwyau gwahanol ar gyfer cael prawf yn seiliedig ar yr amgylchiadau lleol.